Afon Honddu (Mynyddoedd Duon)
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.904772°N 2.967415°W |
Aber | Afon Mynwy |
Afon yn ardal y Mynydd Du sy'n llifo i mewn i afon Mynwy yw'r Honddu.
Mae'n tarddu yn rhan uchaf Dyffryn Ewias, ym Mhowys. Llifa tua'r de ar hyd y dyffryn hwn, heibio Capel-y-ffin, i mewn i Sir Fynwy, a heibio pentrefi Llanddewi Nant Hodni a Chwm-iou nes cyrraedd Llanfihangel Crucornau, lle mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain i ymuno ag afon Mynwy. Yr unig lednant o faint sylweddol sy'n ymuno a'r Honddu yw Nant Bwch.
Ymddengys fod dyffryn afon Honddu fel y mae heddiw wedi ei greu gan rewlif yn hytrach na'r afon ei hun.