Ann Coulter
Ann Coulter | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1961 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Connecticut |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | PhD yn y Gyfraith |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | colofnydd, llenor, newyddiadurwr, awdur, doethinebwr, cyfreithiwr |
Taldra | 183 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Gwefan | https://anncoulter.com |
llofnod | |
Awdures Americanaidd yw Ann Coulter (ganwyd 8 Rhagfyr 1961) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel colofnydd, newyddiadurwr doethinebwr a chyfreithiwr.[1][2]
Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell, Prifysgol Michigan, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Michigan ac Ysgol Uwchradd New Canaan. [3]
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o asgell dde eithafol y Blaid Weriniaethol.
Cafodd Coulter, a aned yn Ninas Efrog Newydd, ei magu yn New Canaan, Connecticut. Dyfnhaodd ei diddordebau ceidwadol wrth astudio hanes ym Mhrifysgol Cornell, lle cyd-sefydlodd The Cornell Review. Yn dilyn hynny, dechreuodd ar yrfa fel clerc y gyfraith cyn codi i amlygrwydd yn y 1990au am ei beirniadaeth di-flewyn ar dafod o'r Arlywydd Clinton. Roedd ei llyfr cyntaf yn ymwneud â'r cyhuddiadau yn erbyn Bill Clinton, ac yn deillio o'i phrofiad o ysgrifennu briffiau cyfreithiol ar gyfer cyfreithwyr Paula Jones (a gyhuddai Clinton o aflonyddu rhywiol, yn ogystal ag ysgrifennu colofnau am yr achosion.[4][5][6][7]
Mae ei cholofn ar gyfer Universal Press Syndicate yn ymddangos mewn nifer o bapurau newydd a gwefannau ceidwadol. Hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi 12 o lyfrau a fu ar restr 'Gwerthwyr Gorau'r New York Times .
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganed Hart Coulter i John Vincent Coulter (1926–2008), asiant gyda'r FBI o deulu Gwyddelig-Almaenig, a oedd yn enedigol o Albany, Efrog Newydd; a Nell Husbands Coulter (g. Martin; 1928–2009), brodor o Paducah, Kentucky.[8] Mae teulu mam Coulter yn yr Unol Daleithiau yn ymestyn yn ôl cyn Rhyfel Cartref America (1765 - 1783), tra bod cyndeidiau ei thad yn fewnfudwyr Gwyddelig ac Almaenig a gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau yng nghanol y 19g.[9],[10] Mae ganddi ddau frawd hŷn: James, cyfrifydd, a John, cyfreithiwr.[11][12][13]
Cafodd ei magu mewn cartref ceidwadol yn Connecticut gan rieni Gweriniaethol, gyda thad a oedd yn eilynaddoli Joseph McCarthy. Dywed Coulter ei bod wedi nodi ei bod yn geidwadol ers meithrinfa. I baratoi ar gyfer dadleuon gwleidyddol, darllenodd lyfrau fel The Conscience of a Conservative gan Barry Goldwater.[14]
Yn 14 oed, ymwelodd Coulter â'i brawd hŷn yn Ninas Efrog Newydd, lle mynychodd John ysgol y gyfraith. Tra oedd yn y darlithoedd, rhoddodd sialens i'w chwaer chwaer fach i ddarllen llyfrau gan Milton Friedman a William E. Simon. Pan ddaeth gartref, holodd Coulter. Fel gwobr, aeth ef a'i ffrindiau â hi allan i dafarnau a dechreuodd freuddwydio am weithio fel awdur. Graddiodd o Ysgol Uwchradd New Canaan yn 1980.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod](hyd at 2019)
- Coulter, Ann H. (1998). High Crimes and Misdemeanors: The Case Against Bill Clinton. Washington, DC; Lanham, MD: Regnery Pub. ISBN 978-0-89526-360-5. OCLC 39380711.
- Coulter, Ann H. (2002). Slander: Liberal Lies About the American Right. New York, NY: Crown. ISBN 978-1-4000-4661-4. OCLC 49673076.
- Coulter, Ann H. (2003). Treason: Liberal Treachery from the Cold War to the War on Terrorism. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-1-4000-5030-7. OCLC 52133318.
- Coulter, Ann H. (2004). How to Talk to a Liberal (If You Must): The World According to Ann Coulter. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-1-4000-5418-3. OCLC 55746549.
- Coulter, Ann H. (2006). Godless: The Church of Liberalism. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-1-4000-5420-6. OCLC 69594152.
- Coulter, Ann H. (2007). If Democrats Had Any Brains, They'd Be Republicans. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-0-307-35345-0. OCLC 156784826.
- Coulter, Ann H. (2009). Guilty: Liberal "Victims" and Their Assault on America. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-0-307-35346-7. OCLC 230728938.
- Coulter, Ann H. (2011). Demonic: How the Liberal Mob Is Endangering America. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-0-307-35348-1.
- Coulter, Ann H. (2012). Mugged: Racial Demagoguery from the Seventies to Obama. New York, NY: Sentinel HC. ISBN 978-1-59523-099-7.
- Coulter, Ann H. (2013). Never Trust a Liberal Over 3 – Especially a Republican. Washington, DC: Regnery Publishing. ISBN 978-1621571919.
- Coulter, Ann H. (2015). Adios, America: The Left's Plan to Turn Our Country Into a Third World Hellhole. Washington, DC: Regnery Publishing. ISBN 978-1621572671.
- Coulter, Ann H. (2016). In Trump We Trust: E Pluribus Awesome!. Dinas Efrog Newydd: Sentinel. ISBN 978-0735214460.
- Coulter, Ann H. (2018). Resistance Is Futile!: How the Trump-Hating Left Lost Its Collective Mind. New York: Sentinel. ISBN 978-0525540076.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 16 Hydref 2015. "Ann Coulter". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ann Coulter".
- ↑ Galwedigaeth: http://www.huffingtonpost.com/mikki-morrissette/a-response-to-ann-coulter_b_157078.html. http://www.washingtonpost.com/wp-dyn/content/article/2007/03/05/AR2007030500425.html. Muck Rack. dyddiad cyrchiad: 3 Ebrill 2022. http://www.worldatlas.com/webimage/countrys/namerica/usstates/nyfamous.htm.
- ↑ Rosenberg, Eli. "Ann Coulter once called Trump a 'god.' Now she says he's 'gutless' if he can't build the wall". Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
- ↑ Sollenberger, Roger. "Ann Coulter, of All People, Just Handed Democrats Their Strategy for 2020". pastemagazine.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-17. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
- ↑ "Ann Coulter says Jews, like rest of Democratic base, 'hate white men'". www.timesofisrael.com. The Times of Israel. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Conroy, J. Oliver (17 Hydref 2018). "Ann Coulter believes the left has 'lost its mind'. Should we listen?". The Guardian. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
- ↑ Smolenyak, Megan. "Ann Coulter's Immigrant Ancestors". The Huffington Post. Cyrchwyd 21 Hydref 2015.
- ↑ "Ann Coulter – 9 Ionawr 2008 – John Vincent Coulter". anncoulter.com.
"Nell Husbands Nartin CoulterLL" Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback. humanevents.com. Ebrill 2009. - ↑ Coulter, Ann (22 Ebrill 2009). "NELL HUSBANDS MARTIN COULTER". AnnCoulter.com. Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.
- ↑ "James Coulter". LinkedIn. Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.[dolen farw]
- ↑ "Coulter & Walsh: About (John V. Coulter)". coulterwalsh.com. Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.
- ↑ Holson, Laura M. (8 Hydref 2010). "Outflanked on Right, Coulter Seeks New Image". nytimes.com. The New York Times. Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.
- ↑ "Ann Coulter Is a Human Being". Broadly (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Ebrill 2016.