Anne Meara
Anne Meara | |
---|---|
Ganwyd | Anne Therese Meara 20 Medi 1929 Brooklyn |
Bu farw | 23 Mai 2015 Upper West Side |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor |
Adnabyddus am | The King of Queens |
Taldra | 168 centimetr |
Priod | Jerry Stiller |
Plant | Amy Stiller, Ben Stiller |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Writers Guild of America Award for Best Original Screenplay, Outer Critics Circle Award |
Actores a digrifwr Americanaidd oedd Anne Meara (20 Medi 1929 – 23 Mai 2015). Bu hi a'i gŵr Jerry Stiller yn ddeuawd comedi amlwg yn UDA'r 1960au yn ymddangos fel Stiller and Meara. Roedd hi'n fam i'r actor a digrifwr Ben Stiller a'r actores Amy Stiller.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Cafodd Meara ei geni yn Brooklyn, Efrog Newydd yn ferch i rieni o dras Wyddelig sef Mary (née Dempsey) ac Edward Joseph Meara, a oedd yn gyfreithiwr. Magwyd Meara yn y ffydd Gatholig Rufeinig cyn cael tröedigaeth i Iddewiaeth Ddiwygiedig (ffydd ei gŵr) chwe blynedd ar ôl priodi Jerry Stiller. Roedd Meara wedi bod yn briod â Stiller ers 1954.[1][2][3]
Roedd Meara wedi ysgrifennu am farwolaeth ei mam a phrofiadau ei phlentyndod mewn ysgol breswyl Catholig[4].
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd Meara a Stiller i'll ddau yn aelodau o'r cwmni byrfyfyr The Compass Players (a ddaeth yn ddiweddarach yn The Second City), cyn creu eu deuawd comedi Stiller a Meara a oedd yn selio llawer o'u hact ar dröydd trwstan eu perthynas go iawn. Bu'r ddeuawd yn ymddangos yn rheolaidd ar The Ed Sullivan Show a rhaglenni teledu eraill.
Yn y 1970au, bu Meara a Stiller yn ymddangos mewn nifer o hysbysebion ar gyfer y gwin Blue Nun. Bu Meara'n actio rhan Stiwardes Awyren yn y comedi sefyllfa Rhoda. Chwaraeodd rôl fechan gyferbyn â Laurence Olivier yn Ffilm The Boys from Brazil (1978).
Bu hi'n chware ran Mary Brady yn y rhaglen Sex and the City a Veronica yn The King of Queens.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- The Out-of-Towners (1970)
- Lovers and Other Strangers (1970)
- Irish Whiskey Rebellion (1972)
- Nasty Habits (1977)
- The Boys from Brazil (1978)
- Fame (1980)
- In Our Hands (1984)
- The Longshot (1986)
- The Perils of P.K. (1986)
- My Little Girl (1987)
- That's Adequate (1989)
- Awakenings (1990)
- Through an Open Window (1992)
- Highway to Hell (1992)
- So You Want to Be an Actor (1993)
- Reality Bites (1994)
- The Search for One-Eye Jimmy (1994)
- Heavyweights (1995)
- Kiss of Death (1995)
- The Daytrippers (1996)
- The Thin Pink Line (1998)
- Southie (1998)
- The Diary of the Hurdy-Gurdy Man (1999)
- Judy Berlin (1999)
- Brooklyn Thrill Killers (1999)
- A Fish in the Bathtub (1999)
- Amy Stiller's Breast (2000)
- The Independent (2000)
- Zoolander (2001)
- Keeping It Real: The Adventures of Greg Walloch (2001)
- Get Well Soon (2001)
- Like Mike (2002)
- The Yard Sale (2002)
- Crooked Lines (2003)
- Chump Change (2004)
- Night at the Museum (2006)
- The Mirror (2007)
- Sex and the City: The Movie (2008)
- Another Harvest Moon (2009)
- Planes: Fire & Rescue (2014) Winnie (llais)
Gwaith teledu
[golygu | golygu cod]- The Greatest Gift (TV series) (1954–1955)
- Ninotchka (1960)
- Dames at Sea (1971)
- The Paul Lynde Show (1972–1973)
- The Corner Bar (aelod o'r cast ym 1973)
- Kate McShane (1975) (cafodd ei ganslo ar ôl 10 pennod)
- Rhoda (aelod o'r cast o 1976–1977)
- Take Five with Stiller & Meara (1977–1978)
- Archie Bunker's Place (aelod o'r cast o 1979–1982)
- HBO Sneak Previews (gyda Jerry Stiller 1979-1982)
- The Other Woman (1983, awdur ac aelod o'r cast)
- The Stiller and Meara Show (1986) (aelod o'r cast a chyd awdur)
- ALF (ymddangos mewn 7 pennod 1987-1989)
- The Day They Came to Arrest the Book (1987)
- Murder, She Wrote (1988)
- Avenue Z Afternoon (1991)
- The Sunset Gang (1991)
- All My Children (aelod o'r cast o 1992–1999)
- Love off Limits (1993)
- "In the Heat of the Night" (1994) (1 pennod)
- Great Performances (The Mother (1994)
- Jitters (1997)
- After Play (1999, awdur ac aelod o'r cast)
- What Makes a Family (2001)
- The Yard Sale (2002)
- Sex and the City (2002–2004)
- The King of Queens (1999, 2003–2007)
- Oz (2 bennod ym 1999 & 2002)
- Crooked Lines (2003)
- Good Morning, Miami (2003, 1 episode)
- Law & Order: Special Victims Unit (dwy bennod 2004 & 2012)
- Four Kings (2006, 1 episode)
- The Shallow End of the Ocean (2007)
- Mercy (2009, 1 pennod)
- Wonder Pets (2009–2010, 2 bennod)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Down the Garden Paths (2000, awdur)
- After-Play (1995, awdur, brif ran)
- Anna Christie (1993, enwebai ar gyfer wobr Tony )
- Eastern Standard (1988)
Radio
[golygu | golygu cod]- I'd Rather Eat Pants, National Public Radio, 2002
- Dining Alone (Hysbyseb Blue Nun gyda Jerry Stiller, enillydd Gwobr Clio, 1975)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bloom, Nate (March 17, 2009). Interfaith Family.com: "A Pint of Guinness, A Cup of Manischevitz: Some Irish/Jewish Connections".
- ↑ Anne Meara Biography (1929-)
- ↑ "E.J. Meara, Creator Of Comedy Skits, 73". The New York Times. December 16, 1966.
- ↑ Meara, Anne (June 8, 2009). "Old Nuns".