Antonio Gramsci
Antonio Gramsci | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ionawr 1891 Ales |
Bu farw | 27 Ebrill 1937 o gwaedlif ar yr ymennydd Rhufain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, gwleidydd, newyddiadurwr, llenor, economegydd, beirniad llenyddol, hanesydd, cymdeithasegydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, adolygydd theatr |
Swydd | aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal |
Adnabyddus am | Prison Notebooks |
Prif ddylanwad | Georg Hegel, Karl Marx, Benedetto Croce, Francesco De Sanctis, Giovanni Gentile, Niccolò Machiavelli, Friedrich Engels, Vladimir Lenin, Georges Sorel, Antonio Labriola, Amadeo Bordiga, Vilfredo Pareto, Gaetano Mosca |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Eidal |
Mudiad | continental philosophy, Western Marxism, neo-Marxism, Marxist humanism |
Priod | Julia Schucht |
Gwobr/au | Gwobr Viareggio |
llofnod | |
Athronydd, llenor, gwleidydd, a damcaniaethwr gwleidyddol o'r Eidal oedd Antonio Gramsci (IPA: [ˈɡramʃi]) (22 Ionawr 1891 – 27 Ebrill 1937), ac un o gydsefydlwyr Plaid Gomiwnyddol yr Eidal yn 1921. Carcharwyd ef gan Mussolini yn 1926 a threuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes dan glo. Yn 1929 dechreuodd ysgrifennu ei lyfrau nodiadau yn y ddalfa, y rheiny nas cyhoeddid tan y 1950au dan y teitl Quaderni del carcere. Ynddynt traethodai ei holl syniadaeth wleidyddol ac economaidd, gan gynnwys ei ddamcaniaeth o hegemoni a'i gred bod angen addysg radicalaidd ar y dosbarth gweithiol i berswadio iddynt ymwrthod â chyfalafiaeth a phrynwriaeth. Rhyddhawyd ef yn 1935 mewn iechyd gwael, a bu farw ymhen dwy flynedd. Yn ail hanner yr 20g, dylanwadodd ei waith yn gryf ar yr adain chwith gwrth-Stalinaidd yn Ewrop.