Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby
Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Derbyshire |
Prifddinas | Matlock, Swydd Derby |
Poblogaeth | 71,977 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Derby (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 792.4241 km² |
Yn ffinio gyda | Bwrdeistref High Peak, Ardal De Swydd Derby, Bwrdeistref Amber Valley, Ardal Gogledd-ddwyrain Swydd Derby |
Cyfesurynnau | 53.05°N 1.7°W |
Cod SYG | E07000035 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Derbyshire Dales District Council |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Derby, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby (Saesneg: Derbyshire Dales District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 792 km², gyda 72,325 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref High Peak i'r gogledd-orllewin, Ardal Gogledd-ddwyrain Swydd Derby a Bwrdeistref Amber Valley i'r dwyrain, ac Ardal De Swydd Derby i'r de-ddwyrain, yn ogystal â siroedd De Swydd Efrog i'r gogledd-ddwyrain a Swydd Stafford i'r gorllewin.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol "Gorllewin Swydd Derby" oedd ei henw, ond fe'i hailenwyd ym 1988.
Rhennir yr ardal yn 109 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Matlock. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Ashbourne, Bakewell, Darley Dale a Wirksworth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 5 Tachwedd 2020