Arminius
Arminius | |
---|---|
Ganwyd | Herman c. 17 CC Afon Weser |
Bu farw | Germania |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | cadfridog rhyfel |
Swydd | penadur |
Rhagflaenydd | Segimerus |
Tad | Segimerus |
Priod | Thusnelda |
Plant | Thumelicus |
- Am y diwinydd Protestannaidd, gweler Jacobus Arminius.
Arweinydd Almaenig oedd Arminius, hefyd Armin, Almaeneg modern: Hermann (18 CC/17 CC - 21 OC). Mae'n fwyaf enwog am ei orchest yn dinistrio tair lleng Rufeinig ym Mrwydr Fforest Teutoburg yn 9 OC.
Roedd Arminius yn aelod o lwyth y Cherusci ac yn fab i'w pennaeth Segimerus. Bu'n ymladd dros Rufain, a rhoddwyd dinasyddiaeth Rufeinig iddo. Dychwelodd i'r Almaen a daeth yn arweinydd cynghrair o lwythau Almaenig i wrthwynebu Rhufain.
Yn 9 OC, enillodd ei fuddugoliaeth fwyaf yn Fforest Teutoburg. Ymladdwyd y frwydr dros nifer o ddiwrnodau, yn ôl pob tebyg rhwng 9 Medi ac 11 Medi, a'r canlyniad oedd i dair lleng Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus, (Legio XVII, Legio XVIII a Legio XIX), gael eu dinistrio'n llwyr gan yr Almaenwyr dan Arminius.
Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers Brwydr Cannae yn erbyn Hannibal. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Suetonius, gyrrwyd yr ymerawdwr Augustus bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muriau y palas a gweiddi Quintili Vare, legiones redde! ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")
Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd Afon Rhein. Ymladdodd Arminius yn erbyn Tiberius, yna o 14 OC, wedi i Tiberius olynu Augustus fel ymerawdwr, yn erbyn nai Tiberius, Germanicus. Bu brwydro caled, ond enillodd Germanicus nifer o fuddugoliaethau dros Arminius, yn enwedig ger Idistoviso ar Afon Weser yn 16. Gallodd adennill eryr pob un o'r tair lleng a gollwyd ym Mrwydr Fforest Teutobug. Dymunai Germanicus barhau ei ymgyrchoedd yn Germania, ond galwodd Tiberius ef yn ôl i Rufain a'i anfon ar ymgyrch yn y dwyrain.
Yn ddiweddarach, dechreuodd rhyfel rhwng Arminius a Marbod, brenin y Marcomanni. Gorfodd Arminius ei elyn i encilio, ond ni allai ei yrru allan o'i gadarnleoedd yn yr ardal a eleir yn Bohemia heddiw. Yn 21 llofruddiwyd ef gan aelodau o'i lwyth ei hun a'r Chatti, oedd yn teimlo ei fod yn mynd yn rhy bwerus.
Yn y 19g, yn enwedig yn ystod y brwydro yn erbyn Napoleon ar ddechrau'r ganrif, daeth Arminius yn symbol o genedlaetholdeb Almaenig. Yn 1839, dechreuwyd adeiladu cerflun enfawr ohono, yr Hermannsdenkmal, ar fryn gerllaw Detmold yn Fforest Teutoburg.