Arne Garborg
Arne Garborg | |
---|---|
Ganwyd | Aadne Eivindsson Garborg 25 Ionawr 1851 Undheim |
Bu farw | 14 Ionawr 1924 Asker |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, dyddiadurwr, dramodydd, bardd |
Priod | Hulda Garborg |
Plant | Arne Olaus Fjørtoft Garborg |
Nofelydd, bardd, dramodydd, ac ysgrifwr Norwyaidd oedd Arne Evensen Garborg (25 Ionawr 1851 – 14 Ionawr 1924). Garborg oedd un o'r llenorion cyntaf i ysgrifennu drwy gyfrwng Nynorsk, ar ffurf Landsmaal, iaith lenyddol a safonwyd gan Ivar Aasen er meithrin llên genedlaethol fodern yn Norwy.
Ganed yn Time yn ne-orllewin Norwy, pan oedd y wlad yn rhan o Deyrnasoedd Unedig Sweden a Norwy. Ffermwr oedd ei dad, a laddodd ei hunan oherwydd cyfuniad o feddwl mewn cynnwrf crefyddol a siom wedi i'w fab wrthod gweithio ar fferm y teulu. Cafodd Garborg ei hyfforddi mewn athrofa a gweithiodd yn athro ac yn olygydd papurau newydd cyn iddo astudio ym Mhrifysgol y Brenin Ffredrig (bellach Prifysgol Oslo) yn y brifddinas, Kristiania. O ganlyniad i hunanladdiad ei dad, trodd Garborg yn erbyn crefydd uniongred, yn enwedig Pietistiaeth ei fachgendod. Cofleidiodd daliadau sosialaidd ac anarchaidd, a chariad rhydd, a dehonglodd Gristnogaeth yn ffydd er chwyldro'r ysbryd a'r gymdeithas.[1]
Ymhlith ei nofelau, sydd yn nodweddiadol o fudiad naturiolaeth, mae Bondestudentar (1883), Hjaa ho mor (1890), Trætte mænd (1891), Fred (1892). Ei gampwaith yw'r cylch barddonol Haugtussa (1895), a osodir ar gân gan Edvard Grieg. Cyfieithodd yr Odyseia (1918) a rhan o'r Mahābhārata (1921) i'r Norwyeg. Bu farw Garborg yn 72 oed yn Asker, ger Kristiania.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Arne Evensen Garborg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Chwefror 2020.