Avignon
Math | cymuned, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 91,760 |
Pennaeth llywodraeth | Cécile Helle |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Siena, Wetzlar, Diourbel, Tortosa, Ioannina, New Haven, Orvieto, Colchester, Tarragona, Ceccano, Alcañiz, Diourbel Region, Guanajuato |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Avignon, Canton of Avignon-Est, Canton of Avignon-Nord, Canton of Avignon-Ouest, Canton of Avignon-Sud, Vaucluse, Grand Avignon |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 64.91 km² |
Uwch y môr | 10 ±1 metr, 122 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Rhône, Durance |
Yn ffinio gyda | Barbentane, Châteaurenard, Noves, Rognonas, Villeneuve-lès-Avignon, Les Angles, Caumont-sur-Durance, Morières-lès-Avignon, Le Pontet, Sorgues |
Cyfesurynnau | 43.9486°N 4.8083°E |
Cod post | 84000, 84140 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Avignon |
Pennaeth y Llywodraeth | Cécile Helle |
Dinas yn ne-ddwyrain Ffrainc sy'n fwyaf enwog oherwydd iddi fod yn ganolfan rhai Pabau a Gwrth-Babau yn y Canol Oesoedd yw Avignon (Provençal: Avinhon neu Avignoun). Hi yw prifddinas département Vaucluse. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 89,300 yn y ddinas ei hun, ac roedd 290,466 yn yr ardal ddinesig yng nghyfrifiad 1999.
Hanes
[golygu | golygu cod]Saif y ddinas ar lan afon Rhône, ychydig filltiroedd yn uwch na'i chymer gydag afon Durance. Sefydlwyd hi gan lwyth Celtaidd y Cavares, ac yn ddiweddarch roedd ymsefydlwyr Phocaeaidd o Massilia (Marseilles heddiw) yma. Dan y Rhufeiniaid, fel Avenio, roedd yn un o ddinasoedd mwyaf llewyrchus Gallia Narbonensis. Cyhoeddodd Avignon ei hun yn weriniaeth annibynnol ar ddiwedd y 12g, ond yn ystod yr ymgyrch yn erbyn yr Albigensiaid (dilynwyr athrawiaeth y Cathar), cipiwyd y ddinas ar 13 Medi 1226 gan Louis VIII, brenin Ffrainc a legad y Pab. Gorfodwyd y ddinas i ddymchwel eu muriau.
Yn 1309, dewiswyd Avignon gan y Pab Clement V fel canolfan newydd yn lle Rhufain. Bu'r babaeth yma hyd 1377, a gelwir hwn yn gyfnod Pabaeth Avignon. Yn ystod yr Sgism Fawr (1378-1415), dychwelodd y Gwrth-babau Clement VII and Bened XIII i Avignon. Yn 1403, gorfodwyd Bened XIII i ffoi i Aragon.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]Adeilad enwocaf y ddinas yw'r Palais des Papes (Palas y Pabau). Dynodwyd canol hanesyddol Avignon a'r Palais des Papes yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1995. Mae'r ddinas yn adnabyddus hefyd oherwydd y gân Ffrangeg enwog i blant, "Sur le pont d'Avignon".
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Olivier Messiaen (1908-1992), cyfansoddwr
- Mireille Mathieu (g. 1946), cantores