BBC
BBC Broadcasting House o'r tu fewn | |
Enghraifft o'r canlynol | busnes, public broadcaster, sefydliad |
---|---|
Idioleg | Amhleidioldeb |
Dechrau/Sefydlu | 18 Hydref 1922, 1 Ionawr 1927 |
Lleoliad yr archif | Stuart A. Rose Manuscript, Archives, and Rare Book Library, BBC Archives |
Pennaeth y sefydliad | Chair of the BBC, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC |
Sylfaenydd | John Reith, George Villiers, 6th Earl of Clarendon |
Rhagflaenydd | British Broadcasting Company Limited |
Aelod o'r canlynol | Undeb Darlledu Ewropeaidd, World Wide Web Consortium, Digital Preservation Coalition, Permanent Committee on Geographical Names |
Gweithwyr | 21,795 |
Isgwmni/au | BBC Worldwide, BBC Studioworks, BBC Film, BBC Studios, German Service |
Ffurf gyfreithiol | Siarter brenhinol, corff statudol |
Cynnyrch | darlledu, radio broadcasting |
Incwm | 290,000,000 punt sterling 290,000,000 punt sterling (31 Mawrth 2021) |
Pencadlys | Llundain, Y Tŷ Darlledu |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://bbc.com, https://bbc.co.uk, https://www.bbcweb3hytmzhn5d532owbu6oqadra5z3ar726vq5kgwwn6aucdccrad.onion |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corfforaeth ddarlledu gyhoeddus y Deyrnas Unedig yw'r British Broadcasting Corporation (yn statudol Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn Gymraeg, ond defnyddir y byrfodd BBC: "bi bi ec" neu "bi bi si").
Mae'n darparu gwasanaethau teledu, radio ac arlein trwy'r Deyrnas Unedig ac yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy gyfrwng ei gwefannau, y gwasanaeth radio BBC World Service, ynghyd â nifer o fentrau masnachol yn y maes teledu, fel BBC America.
Hanes y BBC
[golygu | golygu cod]1920-1950
[golygu | golygu cod]Yn y 1920au gwelwyd creadigaeth y BBC fel sefydliad a darlledydd. Gwnaeth John Reith greu'r ethos, sef i hysbysu, addysgu ac adloni—model sy'n addas ar gyfer unrhyw ddarlledwr cyhoeddus. Profwyd radio i fod yn boblogaidd iawn trwy'r wlad, efo cynnydd mawr yn werthiant y radio. Yn ystod y Streic gyffredinol yn 1926 wynebodd y BBC wrthdaro mawr efo'r llywodraeth ynglŷn ag annibyniaeth olygyddol y darlledwr. Erbyn y 1930au ehangodd y sefydliad efo hyder, ac roedd yr Broadcasting House, sef y canolfan darlledu cyntaf o'r fath ym Mhrydain, yn symbolaidd o hyn. Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn arloesi efo'r dewis cynyddol o raglenni radio ac roedd yna hefyd arbrofion darlledu teledu dan arweiniad John Logie Baird, sef dyfeisiwr y teledu. Chwaraeodd y BBC rhan allweddol bwysig trwy ddarlledu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er bod darllediadau teledu wedi darfod dros y cyfnod. Gwnaeth Winston Churchill nifer o areithiau ysbrydol dros y tonnau awyr ac roedd y gwasanaeth newyddion yn fudd i nifer o bobl o gwmpas y byd. Tua diwedd y 1940au yr oedd y radio yn darlledu ychydig o adloniant ysgafnach hefyd, efo rhaglenni hir dymor megis Womans Hour a Book at Bedtime.
BBC yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Dechreuodd darlledu yng Nghymru ar 13 Mehefin 1923. Darlledwyd y Gymraeg am y tro cyntaf efo Mostyn Thomas yn canu Dafydd y Garreg Wen [1] Roedd cadw cydbwysedd rhwng y ddwy iaith yn broblem yn y dyddiau hyn hyd yn oed. Digon llugoer oedd agwedd Llundain tuag at Gymru, a bu rhaid pwyso yn drwm am arian a chydnabyddiaeth. Yn wir roedd John Reith yn casáu Cymru. Er gwaethaf hyn sefydlwyd adran ar wahan i Gymru yn 1935. Yn 1937 cafwyd tonfedd arbennig.[2]
1950-1970
[golygu | golygu cod]Y 1950au oedd degawd y teledu, efo cynnydd mawr mewn gwylwyr oherwydd coroni Elizabeth II yn 1953. Yn dilyn hyn, dechreuodd rhaglenni fel Blue Peter, Panorama, y sebon cyntaf erioed ac ar y radio dechreuodd Under Milk Wood a hefyd The Archers. Gwelodd y 1960au ehangiad mawr i'r sefydliad, wrth iddynt symud i mewn i’w cartref newydd, sef Televison Centre yn Llundain. Tyfodd y sîn pop ym Mhrydain efo lansiad Radio 1 yn 1967. Roedd 1969 yn flwyddyn a thrawsnewidiodd y diwydiant, efo darllediad Apollo 11 yn glanio ar y Lleuad mewn lliw.
1970-1990
[golygu | golygu cod]Yn ystod y 1970au gwelodd y BBC mwy o esblygiad efo cyflwyniad rhaglenni comedi megis Morecambe and Wise, rhaglenni dogfennol David Attenborough a dramâu fel y BBC Shakespeare Project. Roedd partneriaethau efo'r Brifysgol Agored wedi torri tir newydd yn y ffordd a darlledwyd addysg. Roedd yna ffocws pwysig ar y BBC yn ystod yr 1980au wrth adrodd ar Ryfel y Falklands, a hefyd arddangos cyngerdd Live Aid. Gwyliodd dros 750 miliwn priodas Charles a Diana - y nifer fwyaf o wylwyr erioed ym Mhrydain, a lansiwyd y sebon EastEnders yn 1985. Roedd yna wrthdaro eto am annibyniaeth olygol y sefydliad o gwmpas yr amser roedd yna gyffro yng Ngogledd Iwerddon, am y tro cyntaf ers i streic gyffredinol.
1990- presennol
[golygu | golygu cod]Daeth y BBC mewn i’r oes ddigidol yn y 90’au, trwy ddatblygu nifer o ddulliau darlledu digidol, boed yn darlledu daearol neu dros y rhyngrwyd. Lansiwyd sianel newyddion pedair awr ar hugain, ac roedd y teletubies wedi trawsnewid rhaglenni plant ar raddfa fydol. Galwyd y 2000’au yn ddegawd digidol efo cynulleidfaoedd eisiau mwy o gynnwys unrhyw bryd ac unrhyw le, felly lansiwyd BBC iplayer yn Nadolig 2007. Mae’r wefan yn cael dros 3.6 biliwn edrychiad pob mis.
Lleoliadau
[golygu | golygu cod]Lleolir prif swyddfeydd canolog y gorfforaeth yng nghanol a gorllewin Llundain, gyda swyddfeydd a stiwdios ar gyfer y gwasanaethau i genedloedd a rhanbarthau Gwledydd Prydain mewn trefi a dinasoedd eraill. Mae cynllun ar droed hefyd i adleoli nifer o adrannau cynhyrchu'r BBC yn MediaCity yn ninas Salford ym Manceinion.
Yng Nghymru mae gan BBC Cymru bresenoldeb yng Nghaerdydd, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Wrecsam a nifer o stiwdios eraill di-griw gan cynnwys Abertawe.
BBC Cymru
[golygu | golygu cod]- Prif: BBC Cymru
Adran neu ranbarth cenedlaethol y BBC ar gyfer Cymru yw BBC Cymru (BBC Wales).
Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, rhaglenni radio yn Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac arlein ar wefan BBC Cymru.
Mae'r wefan BBC yn cynnwys newyddion, chwaraeon, tywydd, a gwybodaeth traffig a theithio, gwybodaeth am raglenni BBC Cymru a Radio Cymru, ac erthyglau ac adolygiadau ar nifer o bynciau yn cynnwys crefydd, y celfyddydau, hanes ac iaith. Mae hefyd yn cynnwys rhaglenni Cymraeg ar BBC iplayer. Roedd yr is-wefan yn darparu meddalwedd o'r enw "BBC Vocab/Geirfa" ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, sy'n uwcholeuo rhai geiriau ac yn rhoi cyfieithiad/au Saesneg os lleolir y cyrchwr dros y gair. Yn y 2010au mabwysiadwyd Vocab gan yr Uned Technolegau Iaith a dilewyd y gair BBC o'r botwm.[3][4] Mae'n defnyddio geiriaduron yr uned i'r perwyl.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Trevor Fishlock a Mererid Hopwood, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007, t. 178
- ↑ Trevor Fishlock a Mererid Hopwood, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 t. 179
- ↑ yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 272/3
- ↑ Uned Techolegau Iaith, Bangor.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- Gwefan BBC Cymru
- BBC Cymru (news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/) yn y Peiriant Wayback (archif index)
- BBC Cymru (news.bbc.co.uk/hi/welsh/static/default.htm) yn y Peiriant Wayback (archif index)
- Cynllun Iaith Gymraeg y BBC Archifwyd 2014-11-08 yn y Peiriant Wayback
- NEWYDDION BBC CYMRU