Baner Rwmania
Gwedd
Baner drilliw yw baner Rwmania. Cafodd ei chreu yn 1848 trwy gyfuno lliwiau Wallachia a Moldafia, y taleithiau Otomanaidd sydd heddiw yn Rwmania: glas o faner Moldafia, melyn o faner Wallachia, a choch o faneri'r ddwy dalaith sydd yn cynrychioli undod Rwmanaidd. Yn 1867 gosodwyd arfbais y wlad yn y stribed melyn canolog; cafodd yr arfbais ei newid nifer o weithiau ac yn 1948 cafodd ei hailosod gan arwyddlun comiwnyddol. Cafodd hyn ei ddiddymu yn dilyn cwymp yr Arlywydd Ceauşescu yn 1989, a mabwysiadwyd y faner gyfredol ar 27 Rhagfyr y flwyddyn honno.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)