Billy Graham
Gwedd
Billy Graham | |
---|---|
Ganwyd | William Franklin Graham Jr. 7 Tachwedd 1918 Charlotte |
Bu farw | 21 Chwefror 2018 Montreat |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog bugeiliol, diwinydd, pregethwr, hunangofiannydd, gweinidog yr Efengyl |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Ruth Graham |
Plant | Franklin Graham, Anne Graham Lotz, Gigi Graham, Will Graham, Tullian Tchividjian |
Perthnasau | L. Nelson Bell |
Gwobr/au | KBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Oriel Anfarwolion Cerddoriaeth yr Efengyl, Gwobr Templeton, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Medal Aur y Gyngres, Gwobr Horatio Alger, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Urdd Dyngarol Achubiaeth Affrica |
llofnod | |
Efengylydd Cristnogol o'r Unol Daleithiau oedd William Franklin Graham, Jr. OBE, a adnabyddwyd fel Billy Graham (7 Tachwedd 1918 – 21 Chwefror 2018). Rhoddodd cyngor ysbrydol i sawl Arlywydd yr Unol Daleithiau ac fe ddaeth yn seithfed ar restr Gallup o'r bobl gafodd eu hedmygu fwyaf yn ystod yr 20g. Roedd yn perthyn i enwad Bedyddwyr y De.
Dywedir bod Graham wedi pregethu'n fyw i fwy o bobl o amgylch y byd nag unrhyw un arall erioed. Hyd at 1993, roedd mwy na 2.5 miliwn o bobl wedi ymateb i'w apel yn ei ymgyrchoedd i "dderbyn Iesu Grist fel eu gwaredwr personol". Hyd at 2002, roedd ei gynulleidfa gydol oes, gan gynnwys darllediadau radio a theledu, wedi cynyddu i dros 2,000 miliwn.
Bu farw yn 99 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr efengylwr, Billy Graham wedi marw , Golwg360, 21 Chwefror 2018.
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.