Boicot
Gwedd
Gwrthodiad i ymwneud â chwmni, unigolyn, gwlad, neu rywbeth arall, gan amlaf fel protest, cosb neu ymgyrch, yw boicot. Daw'r enw o'r Capten Charles Cunningham Boycott (1832–97), asiant o Sais a oedd yn cynrychioli'r landlord absennol yr Arglwydd Erne yn Swydd Mayo, Iwerddon. Fe gafodd ei dargedu gan y Gynghrair Dir a'i anwybyddu gan y gymuned leol. Ymddangosodd y ferf Saesneg boycott ym 1880, a cheir enghraifft o'r gair yn Gymraeg o 1887 ym Maner ac Amserau Cymru.[1]
Yng nghysylltiadau rhyngwladol, gelwir boicotiau swyddogol gan un wladwriaeth, neu garfan ohonynt, yn erbyn gwladwriaeth arall yn sancsiynau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ boicotiaf. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Mai 2018.