Bois y Blacbord
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Dechreuwyd | 1958 |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd, Canu gwerin, Cerdd Dant |
Rhanbarth | Sir Gaerfyrddin |
- Gellir darllen erthygl lawnach ar Wici Porth ar: Bois y Blacbord
Grŵp canu harmoni clòs o ysgolfeistri a ffurfiwyd yn 1958 yn Ysgol Haf flynyddol awdurdod addysg Sir Gaerfyrddin oedd Bois y Blacbord. Yn ogystal â chanu penillion Cerdd Dant mewn cystadlaethau cenedlaethol roedd Bois y Blacbord yn ymroi i adloniant ysgafn y cyfnod, gan gynnwys caneuon gwerin wedi’u haddasu at ddant cynulleidfa eang.
Bu’r Bois yn brysur am flynyddoedd yn canu mewn cyngherddau elusennol ac ar raglenni teledu a radio. Cawsant ran hefyd yn seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962. Yn 1964 aethant ar daith i Iwerddon lle cawsant gryn sylw mewn cyngherddau yn Limerick ac ar y cyfryngau.[1]
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Yr arweinydd oedd Noel John ac ef hefyd a oedd yn gyfrifol am addasiadau cerddorol eu repertoire. Noel John (Abergorlech), J.J. Joshua (Llwynhendy), E. Evans (Peniel), T. Bowen (Alltwalis), T.M. Jones (Gorlas), D. Williams (Felinwen), D.P. Jones (Abergwili), H.G. Evans (Hendy), W. Davies (Stebonheath), B. Davies (Talyllychau), M. Rees (Y Tymbl), T. Thomas (Gorslas), G. Phillips (Cwmduad), B. Roberts (Llandybie), J.B. Phillips (Brechfa), W.K. Jones , W. Bowen (LLwynhendy), W. Jones (Blaenau), C. Phillips (Rhydaman).[1][2]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Hen Fenyw Fach Cydweli [sengl] (Welsh Teldisc SPWD909, 1963)
- Caneuon Difyrrus Bois y Blacbord … Jovial Songs of the Blackboard Boys [EP] (Welsh Teldisc TEP841, 1964)
- Caneuon: Ochr A: Moliannwn (In Joyful Praise); Fflat Huw Puw (Huw Puw's Boat). Ochr B: Llanfair P.G.; Twll Bach Y Clo (The Keyhole). Mae Llanfair P.G. yn addasiad o'r gân Saesneg 'Gilly Gilly Ossenfeffer Katzenellenbogen By The Sea'.[3]
- Noson Lawen [EP] (Wren WRE1001, 1964)
- Caneuon: Ymbil am dy Gymorth Di; Ffair Henfeddau; Elen' Gŵyl y Diolch; Y Bröydd Hyn.[4]
- Nadolig yng Nghwmni Bois y Blacbord [EP] (Recordiau'r Dryw WRE1010, 1965)
- Caneuon: Ochr 1 - a) Bethlehem b) Ar Gyfer Heddiw'r Bore. Ochr 2 - a) O Dan yr Ymbarel b) Adre'n Ôl.[4]
- Bois y Blacbord [EP] (Recordiau'r Dryw WRE1019, c.1965)
- Aberdaron [Sengl] [5]
- Beti Wyn o Batagonia Recordiau'r Dryw, WRE 1019, 1966
- Caneuon: Ochr 1 - a) Beti Wyn o Batagonia b)Bro Annwyl i Mi. Ochr 2 - a) Hwiangerdd y Dail b) Menna Lân.[4]
Casgliadau amrywiol
[golygu | golygu cod]- Y Bois a’r Hogia (Recordiau Sain SCD2578, 2010)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Hill, Sarah. "Bois Y Blacbord". Wici Esboniadur Cerddoriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
- ↑ "Bois y Blacbord". 45cat. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
- ↑ "Bois y Blacbord". 45cat. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Tomos, Dafydd. "Bois y Blacbord cloriau recordiau". Flickr. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
- ↑ "Aberdaron". Ebay. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-04-06. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Bois y Blacbord erthygl gan Sarah Hill ar Wici Esboniadur Cerddoriaeth Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Caneuon Bois y Blacbord ar wefan Apple Music yn cynnwys y caneuon: Dros y Mynydd Du; Yr Hen Bess; Dros y Mynydd Du o Frynaman
- Bois y Blacbord ar wefan ffyrdio Spotify