Boutros Boutros-Ghali
Boutros Boutros-Ghali | |
---|---|
Ganwyd | 14 Tachwedd 1922 Cairo, Yr Aifft |
Bu farw | 16 Chwefror 2016 Giza |
Dinasyddiaeth | Yr Aifft |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, llenor, cyfreithegwr, academydd |
Swydd | Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Egyptian Minister of Foreign Affairs, Secretary-General of the Organisation internationale de la Francophonie, President of the Institut de Droit International, President of the Institut de Droit International |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | Arab Socialist Union |
Priod | Lilly Kahil, Leia Maria Nadler |
Perthnasau | Boutros Ghali |
Gwobr/au | Cydymaith o Urdd Canada, honorary doctor of the Catholic University of Louvain, honorary doctor of Waseda University, Grand Cross of the Order of Merit of the Grand Duchy of Luxembourg, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Grand Cross of the Order of the Star of Romania, Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Fienna, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Honorary doctor of the University of Ottawa, Honorary doctor at the Nanjing University, meddyg anrhydeddus Sefydliad Cysylltiadau Rhyngwladol Cenedlaethol Moscaw, Order of Merit, Order of the Republic, Order of the Nile, Grand Cross of the National Order of Mali, Order of the Star of Nepal, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, honorary doctor of the Tbilisi State University, Q126325594, Q126416301, Q126416245, Q126416255, honorary doctorate from the University of Nice-Sophia Antipolis |
llofnod | |
Boutros Boutros-Ghali | |
---|---|
6ed Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig | |
Yn ei swydd 1 Ionawr 1992 – 31 Rhagfyr 1996 | |
Rhagflaenwyd gan | Javier Pérez de Cuéllar |
Dilynwyd gan | Kofi Annan |
1af Ysgrifennydd Cyffredinol y Francophonie | |
Yn ei swydd 16 Tachwedd 1997 – 31 Rhagfyr 2002 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Dilynwyd gan | Abdou Diouf |
Gweinidog Materion Tramor Dros dro | |
Yn ei swydd 17 Medi 1978 – 17 Chwefror 1979 | |
Prif Weinidog | Mamdouh Salem Mustafa Khalil |
Rhagflaenwyd gan | Muhammad Ibrahim Kamel |
Dilynwyd gan | Mustafa Khalil |
Yn ei swydd 17 Tachwedd 1977 – 15 Rhagfyr 1977 | |
Prif Weinidog | Mamdouh Salem |
Rhagflaenwyd gan | Ismail Fahmi |
Dilynwyd gan | Muhammad Ibrahim Kamel |
Manylion personol | |
Ganwyd | 14 Tachwedd 1922 |
Gwleidydd a diplomydd o'r Aifft oedd Boutros Boutros-Ghali (14 Tachwedd 1922 – 16 Chwefror 2016) a fu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (CU) rhwng Ionawr 1992 a Rhagfyr 1996. Roedd yn academydd a chyn Ddirprwy Weinidog Tramor yr Aifft, a goruchwyliodd y CU ar adeg pan oedd e'n trin sawl argyfwng o gwmpas y byd, yn cynnwys rhaniad Yugoslavia a Hil-laddiad Rwanda. Boutros-Ghali oedd Prif Ysgrifennydd cyntaf y corff Organisation internationale de la Francophonie rhwng Tachwedd 1997 a Rhagfyr 2002.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Boutros Boutros-Ghali yn Cairo ar 14 Tachwedd 1922 i deulu Cristnogol Coptaidd.[1] Roedd ei dad Yusuf Butros Ghali yn fab i Boutros Ghali, a oedd yn Brif Weinidog yr Aifft o 1908 hyd iddo gael ei lofruddio yn 1910.[2][3] Roedd ei fam Safela Mikhail Sharubim yn ferch i Mikhail Sharubim (1861–1920), gwas sifil a hanesydd blaenllaw.[4]
Graddiodd Boutros-Ghali Brifysgol Cairo yn 1946.[5] Derbyniodd PhD mewn Cyfraith Ryngwladol o Brifysgol Paris a diploma mewn cysylltiadau rhyngwladol o Sciences Po yn 1949. Rhwng 1949–1979, roedd yn Athro o Gyfraith Ryngwladol a Chysylltiadau Ryngwladol ym Mhrifysgol Cairo. Daeth yn Llywydd y Ganolfan Astudiaethau Gwleidyddol a Strategol yn 1975 a Llywydd y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol Affricanaidd yn 1980. Roedd yn Ysgolhaig Fulbright ym Mhrifysgol Columbia rhwng 1954 a 1955, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil yn Academi Cyfraith Ryngwladol yr Hague rhwng 1963 a 1964, ac Athro Gwadd yn Narlithfa'r Gyfraith ym Mhrifysgol Paris rhwng 1967 a 1968.
Rhagflaenydd: Javier Pérez de Cuéllar |
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 1 Ionawr 1992 – 31 Rhagfyr 1996 |
Olynydd: Kofi Annan |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Boutros Boutros-Ghali Biography, Encyclopedia of World Biography
- ↑ Reid, Donald M. (1982). "Political Assassination in Egypt, 1910–1954". The International Journal of African Historical Studies 15 (4): 625–651. doi:10.2307/217848. http://www.jstor.org/stable/217848. Adalwyd 14 January 2013.
- ↑ Goldschmidt 1993, pp.183,188
- ↑ Goldschmidt 1993 p.183
- ↑ Goshko, John M. (2016-02-16). "Boutros Boutros-Ghali, U.N. secretary general who clashed with U.S., dies at 93". The Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2016-02-16.