Braich
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | israniad organeb, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | isran o'r corff cardinal, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | braich |
Cysylltir gyda | ysgwydd, llaw |
Yn cynnwys | elin, rhan ucha'r fraich |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aelod uchaf mamolion deudroed yw braich, wedi'i lleoli rhwng yr ysgwydd a'r llaw. Mae'r gair Cymraeg braich yn gytras â bregh, brygh yn y Gernyweg a brec'h yn y Llydaweg ac mae'r tri gair hyn yn tarddu o'r gair Lladin bracchium.[1] Fe'i cofnodir yn Gymraeg mor bell yn ôl â 1200: '..hyd nes y cyrhaeddodd at hyd braich...'.
Anatomi
[golygu | golygu cod]Mae'r fraich yn cynnwys 30 asgwrn, cymalau, cyhyrau a gwythiennau gwaed. Mae'r rhan fwyaf o'r cyhyrau'n cael eu defnyddio'n ddyddiol i wneud tasgau dyddiol, arferol.
Yr esgyrn
[golygu | golygu cod]Yn bôn y fraich ceir asgwrn a elwir yn hwmerws. Mae'n cyfarfod y balfais ychydig yn uwch na chymal yr ysgwydd a chyda'r wlna a'r radiws yn y cymal penelin.
Mae'r hwmerws yn asgwrn cryf iawn a gall godi, ar gyfartaledd, 300 pwys.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Henry Lewis, Yr Elfen Ladin yn yr iaith Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1943), penodau 4, 80.