Brian Hibbard
Brian Hibbard | |
---|---|
Ganwyd | 26 Tachwedd 1946 Glynebwy |
Bu farw | 17 Mehefin 2012 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, canwr, actor ffilm, actor teledu |
Actor a chanwr o Gymro oedd Brian Hibbard (26 Tachwedd 1946 – 17 Mehefin 2012). Ef oedd sylfaenydd a phrif leisiwr gwreiddiol The Flying Pickets.[1] Ganwyd Hibbard i deulu dosbarth gweithiol yng Nglynebwy, yn yr hen Sir Fynwy, a cafodd fagwraeth sosialaidd.[2] Fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Glyn Ebwy.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Yn dilyn sawl swydd fel athro, gweithiwr dur, barmon a ysgubwr simneiau, ffurfiodd y Flying Pickets gyda grŵp o actorion eraill oedd wedi bod yn ymarfer canu a cappella tra'n teithio ar fws i'w ymddangosiadau. Perfformiodd ddau gyngerdd yng Nghanolfan Hamdden Glyn Ebwy pan yn teithio gyda'r Flying Pickets, a ffurfiodd linell piced ar Top of the Pops ar anterth streic y glowyr (1984-85).
Actio
[golygu | golygu cod]Yn dilyn llwyddiant y grŵp yn yr 1980au cynnar, aeth Hibbard ymlaen i ddilyn gyrfa fel actor teledu, gan ymddangos yn Coronation Street fel y mecanic garej Doug Murray, yn Emmerdale fel Bobby-John Downes, ac fel Johnny Mac yn yr opera sebon Cymraeg Pobol y Cwm yn ogystal â'r gyfres ddrama i bobl iau Pam Fi, Duw?. Roedd yn y ffilm Twin Town (1997) fel y cymeriad oedd yn galw'i hun yn "Karaoke King", Dai Rees. Ymddangosodd hefyd yn y gyfres ddrama Making Out; yn y stori Doctor Who Delta and the Bannermen; yn y rhaglen gomedi The Armando Ianucci Shows; ac yn y ffilm Rancid Aluminium. Ymddangosodd Hibbard yn EastEnders rhwng 4 a 8 Gorffennaf 2011 yn chwarae Henry Mason, dyn oedd yn arfer rhedeg cartref plant lle roedd Billy Mitchell a Julie Perkins dan ofal.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Yn 2000, canfuwyd fod gan Hibbard gancr y prostad; bu farw o'r afiechyd ar 17 Mehefin 2012.[3][4] Gadawodd ei wraig, Caroline a'i blant: Lilly, Hafwen a Cai.[5]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Twin Town fel Dai Rees (1997)
- Rancid Aluminium (2000)
- Little White Lies fel Tony (2006)
- Svengali fel Tad Dixie (2013)
Teledu
[golygu | golygu cod]- Pobol y Cwm fel Johnny Mac
- Pam Fi, Duw? fel Deryck (tad y prif gymeriad, Rhys)
- Making Out fel Chunky
- EastEnders fel Henry Mason
- Coronation Street fel Doug Murray
- Doctor Who fel Keillor yn stori Delta and the Bannermen
- Emmerdale fel Bobby-John Downes (2003)
- Help! I'm a Teenage Outlaw fel Sir John (2004-2006)
- Made in Wales (2011)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tobler, John (1992). NME Rock 'N' Roll Years (arg. 1st). London: Reed International Books Ltd. t. 387. CN 5585.
- ↑ Spencer Leigh. Brian Hibbard: Singer and actor who formed the Flying Pickets (en) , indepenedent.co.uk, 19 Mehefin 2012. Cyrchwyd ar 31 Awst 2016.
- ↑ Brian Hibbard dies from prostate cancer
- ↑ Brian Hibbard obituary in The Guardian
- ↑ Actor and ex-Flying Pickets singer Brian Hibbard dies , BBC News, 18 Mehefin 2012. Cyrchwyd ar 31 Awst 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Brian Hibbard ar wefan Internet Movie Database