Brwydr y Somme 1916
Gwedd
Math o gyfrwng | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 18 Tachwedd 1916 |
Rhan o | Ffrynt y Gorllewin, y Rhyfel Byd Cyntaf |
Dechreuwyd | 1 Gorffennaf 1916 |
Daeth i ben | 17 Tachwedd 1916 |
Lleoliad | Afon Somme |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Brwydr y Somme pan laddwyd neu anafwyd mwy na miliwn a hanner o filwyr. Ymladdwyd y frwydr rhwng Gorffennaf a Thachwedd 1916. Ceisiodd y Cyngheiriaid, unedau Prydeinig yn bennaf ond gyda rhai Ffrengig, dorri trwy'r llinellau Almaenig ar hyd ffrynt 12 milltir (19 km) o hyd i'r gogledd a'r de o Afon Somme yng ngogledd Ffrainc.
Cofir y frwydr yn bennaf am ei diwrnod cyntaf, 1 Gorffennaf 1916, pan gollodd y fyddin Brydeinig 67,470 o filwyr, 19,240 wedi eu lladd; y nifer uchaf yn ei hanes.
Amcan y frwydr oedd i ddenu lluoedd yr Almaen oddi ar Frwydr Verdun ond mewn gwirionedd collwyd mwy ar y Somme nag yn Verdun.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]