Bwlch Goring
Gwedd
Math | ceunant |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.522°N 1.1387°W |
Cod OS | SU595808 |
Bwlch yn Ne-ddwyrain Lloegr lle mae Afon Tafwys wedi creu toriad rhwng Twyni Berkshire a Bryniau Chiltern yw Bwlch Goring (Saesneg: Goring Gap). Fe'i lleolir tua 16 km (10 mi) i fyny'r afon o Reading a 43 km (27 mi) i lawr yr afon o Rydychen. Yn y fan hon mae'r afon yn ffurfio'r ffin sirol rhwng Berkshire a Swydd Rydychen.
Dyma groesffordd tri llwybr masnachu hynafol – Afon Tafwys, Stryd Icknield a'r Ridgeway. Hefyd mae prif linell Rheilffordd y Great Western yn mynd trwy'r bwlch.