CND Cymru
Math o gyfrwng | cangen, sefydliad |
---|---|
Rhan o | CND |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cangen led-annibynnol o'r mudiad Prydeinig CND yw CND Cymru. Mudiad a sefydlwyd er mwyn ceisio dwyn perswâd ar lywodraeth y DU i gael gwared ar arfau niwclear yw'r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND). [1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd cangen o CND yng Nghaerdydd ym 1958, ac ymddangosodd grwpiau gwrth-niwclear bach lleol mewn rhannau eraill o Gymru, megis Pwyllgor Arfau Niwclear Aberystwyth. Yn ddiweddarach daeth y grwpiau annibynnol hyn yn gysylltiedig â Chyngor Cenedlaethol Cymru CND. Sefydloedd CND Cymru fel olynydd i'r Cyngor Cenedlaethol, yn 1981. Mae CND Cymru yn gweithio dros heddwch a diarfogi rhyngwladol a byd lle mae'r adnoddau helaeth sydd bellach wedi'u neilltuo i filitariaeth yn cael eu hailgyfeirio i wir anghenion y gymuned a'r amgylchedd. Nod y sefydliad yw sicrhau byd di-drais, di-niwclear wedi'i seilio ar barch at hawliau dynol a hawliau bywyd. Mae CND Cymru yn gweithio trwy lobïo, cymryd rhan mewn gwrthdystiadau, trefnu digwyddiadau a chymryd rhan mewn gweithredu uniongyrchol di-drais. Mae hefyd yn ymwneud â gwaith addysg, gan dynnu sylw at faterion pwysig. Yn benodol, ffocws diweddar CND Cymru fu tynnu sylw at anlladrwydd System Arfau Niwclear Prydain, Trident.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd, 1951-1979" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Ebrill 2020.
- ↑ "CND Cymru (Organization) - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2020-04-15.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Christoph Laucht & Martin Johnes (2019). "Resist and survive: Welsh protests and the British nuclear state in the 1980s", Contemporary British History, 33:2, 226-245, DOI: 10.1080/13619462.2018.1519423