Canolfannau Cymraeg i Oedolion
Math o gyfrwng | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Daeth i ben | 2016 |
Dechrau/Sefydlu | 2006 |
Sefydlwyd chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion gan Lywodraeth Cymru yn 2006. Roeddent yn seiliedig ar gyn-ranbarthau ELWa a chawsant eu sefydlu yn y sefydliadau canlynol:
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol Morgannwg
- Prifysgol Caerdydd
- Coleg Gwent
Trosglwyddo cyfrifoldeb
[golygu | golygu cod]Ar 1 Awst 2016, trosglwyddwyd cyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ailstrwythurodd y Ganolfan Genedlaethol ddarpariaeth ledled Cymru, gan ddisodli’r chwe chanolfan ranbarthol Cymraeg i Oedolion flaenorol a’u 20 a mwy o isgontractwyr ag 11 o ddarparwyr.[1]
Darparwyr Cymraeg i Oedolion presennol a’u hardaloedd daearyddol:
- Prifysgol Bangor / Grŵp Llandrillo Menai (Gwynedd / Ynys Môn / Conwy)
- Coleg Cambria / ‘Popeth Cymraeg’ (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam)
- Nant Gwrtheyrn (cyrsiau preswyl sydd wedi eu lleoli yn Llithfaen, Gwynedd)
- Prifysgol Aberystwyth (Ceredigion / Powys a chyrsiau dwys yn Sir Gâr)
- Cyngor Sir Gâr (cyrsiau nad ydynt yn rhai dwys Sir Gâr yn unig)
- Cyngor Sir Penfro (Sir Benfro)
- Prifysgol Abertawe (Academi Hywel Teifi) (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot)
- Prifysgol De Cymru (Rhondda Cynon Taf / Merthyr Tudful / Pen-y-bont ar Ogwr)
- Cyngor Bro Morgannwg (Bro Morgannwg)
- Prifysgol Caerdydd (Dinas a Sir Caerdydd)
- Coleg Gwent (siroedd yng Ngwent)
Roedd y Canolfannau yn arbennigo mewn dysgu Cymraeg i oedolion ac yn cynnig cyrsiau ar bum lefel:
- Mynediad
- Sylfaen
- Canolradd
- Uwch
- Hyfedredd
Cytunir yn gyffredinol taw gwersi dwys sydd fwyaf effeithiol wrth greu siaradwyr Cymraeg ac annogir dysgwyr i ddysgu felly. Ceir cyrsiau preswyl yn Nant Gwrtheyrn.
Mae'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion wedi canolbwyntio yn arbennig ar ddatblygu hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle a gwersi Cymraeg i'r teulu.