Casi Wyn
Gwedd
Casi Wyn | |
---|---|
Casi Wyn yn perfformio ym Mhatagonia | |
Ganwyd | Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Cantores, cyfansoddwraig, bardd ac awdures o ardal Bangor yw Casi Wyn.
Mae hi wedi rhyddhau recordiau gyda labeli I Ka Ching[1] ac yn fwy diweddar dan yr enw Casi a Casi & The Blind Harpist gyda Chess Club Records a Roc Nation. Perfformiodd yng ngŵyl SXSW[2] a BBC Proms Abertawe gyda cherddorfa genedlaethol y BBC. Yn 2019, sefydlodd y cylchgrawn Codi Pais[3] gyda Manon Dafydd a Lowri Ifor.
Ymddangosodd yn y gyfres deledu Porthpenwaig.
Hi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023,[4] cyn trosglwyddo'r awenau i Nia Morais.[5]
Yn 2022, cyfarwyddodd ffilm ddogfen o'r enw Hunan Hyder[6] gyda Carys Huws yn dilyn stori'r artist Marged Sion[7] o grŵp Self Esteem.
Mae Casi Wyn yn gyn-ddisgybl Ysgol Tryfan[8].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Casi Wyn | Cerdd Cymru : Music Wales". www.cerddcymru.co.uk. Cyrchwyd 2020-10-06.
- ↑ (yn en) CASI - The Beast // BBC Introducing at SXSW 2017, https://www.youtube.com/watch?v=kgXIG__Cc8U, adalwyd 2023-02-23
- ↑ "Codi Pais (@codipais) • Instagram photos and videos". www.instagram.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-23.
- ↑ "Casi Wyn yw Bardd Plant Cymru 2021-2023". Literature Wales. Cyrchwyd 2021-10-10.
- ↑ "Bardd Plant Cymru". Llenyddiaeth Cymru. Cyrchwyd 2024-07-24.
- ↑ Reid, Madeline (2022-06-29). "Welsh Creatives Marged, Carys Huws and Casi Wyn Share New Short Film 'Hunan Hyder' - BRICKS Magazine". bricksmagazine.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-23.
- ↑ "BBC Radio 4 - Woman's Hour, 'I haven't heard that stuff being spoken about before [in Welsh]'". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-23.
- ↑ "Ateb y Galw: Y gantores Casi Wyn". BBC Cymru Fyw. 2021-04-19. Cyrchwyd 2021-04-22.