Neidio i'r cynnwys

Castell-nedd

Oddi ar Wicipedia
Castell-nedd
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth50,658 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.66°N 3.81°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000618 Edit this on Wikidata
Cod OSSS745975 Edit this on Wikidata
Cod postSA10–11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJeremy Miles (Llafur)
AS/au y DUChristina Rees (Llafur)
Map
Gweler hefyd Castell-nedd (gwahaniaethu).

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Castell-nedd[1] (Saesneg: Neath). Mae'n gorwedd ar lan chwith Afon Nedd. Roedd ganddi boblogaeth o 19,258 yn 2011.[2]

Man croesi'r afon oedd Castell-nedd i ddechrau, ac ymsefydlodd pobl yma yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ond at dri lle yn unig yng Nghymru y mae'r llenor Rhufeinig Tacitus yn cyfeirio atynt yn ei Historiae (Hanes), ac mae Castell-nedd yn un ohonynt.

Ceir tystiolaeth am aneddiadau hynafol yn y bryniau sy'n amgylchynu'r dref, ac mae'n debyg mai aneddiadau Celtaidd ydynt ond nid ydynt wedi cael eu dyddio. Canfuwyd gweddillion dynol 25 km i ffwrdd yn Ogof Paviland[3] ar Benrhyn Gŵyr, yn dyddio o 24,000 CC, gan brofi bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod Oes yr Iâ ddiwethaf. Er y'i hadnabyddir fel "Arglwyddes Goch Paviland", gweddillion dyn nid menyw ydy.[4] Roedd Castell-nedd wedi ei leoli ar ymyl deheuol y cynfas o iâ, ac roedd Glyn Nedd yn ddyffryn rhewlifol. Daeth llystyfiant ac anifeiliaid i'r ardal yn dilyn enciliad y rhew tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd trigolion Castell-nedd cyn dyfodiad y Rhufeniaid yn perthyn i lwyth Celtaidd y Silwriaid. Nidum yw'r enw ar y gaer Rufeinig a ganfuwyd yn agos i'r ystad dai, a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.[5]

Mae adfeilion castell bychan Normanaidd, sef y Castell Nedd gwreiddiol, ger canol y dref.

Roedd yn dref farchnad, a chychwynodd diwydiant newydd yna yn ystod y 18g, sef haearn, dur ac alcam. Mwyngloddid llawer o lo yn yr ardal, a daeth y dref yn ganolfan bwysig i gludiant ar reilffyrdd a chamlesi. Mwyngloddid hefyd silica. Adeiladwyd goethdŷ i betrol yn yr 20ed ganrif.

Roedd y dref yn borthladd hyd yn ddiweddar.

Heol Windsor yng Nghastell-nedd

Y dref heddiw

[golygu | golygu cod]

Mae atyniadau i ymwelwyr yn cynnwys Abaty Nedd, Parc Y Gnoll, a'r farchnad.

Rhannau amlwg o'r dref yw Tonna i'r gogledd, Cimla i'r dwyrain, Bryncoch a Sgiwen i'r gorllewin a Llansawel i'r de.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Castell-nedd (pob oed) (19,258)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Castell-nedd) (1,666)
  
9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Castell-nedd) (16895)
  
87.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Castell-nedd) (3,718)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghastell-nedd ym 1918, 1934 a 1994. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi Castell-Nedd

[golygu | golygu cod]
Gwlad Dinas
Sbaen Albacete
Yr Almaen Esslingen
Gwlad Pwyl Piotrkow Trybunalski
Yr Iseldiroedd Schiedam
Yr Eidal Udine
Slofenia Velenje
Ffrainc Vienne

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2.  Cyfrifiad y DU 2001.
  3. "Explore Gower:Paviland Cave - Goat's Hole". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-25. Cyrchwyd 2008-06-05.
  4.  Paviland Cave.
  5.  History Department.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]