Catherine Tregenna
Catherine Tregenna | |
---|---|
Ganwyd | 20 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, dramodydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, llenor |
Dramodydd, sgriptwraig teledu ac actores o Gymru yw Catherine Tregenna.
Fe ysgrifennodd y ddrama Art and Guff, chyd-ysgrifennodd y gyfres deledu Cowbois ac Injans a phedair pennod o gyfres wyddonias y BBC, Torchwood: "Out of Time", "Captain Jack Harkness", "Meat" a "Adam". Yn ogystal â chyd-ysgrifennu Meat, fe wnaeth greu'r propiau 'cig' a ddangoswyd yn y bennod. Yn 2008 fe enwebwyd y bennod "Captain Jack Harkness" ar gyfer gwobr Hugo am Gyflwyniad Dramatig Gorau, Ffurf Fer.[1]
Mae wedi ysgrifennu penodau ar gyfer EastEnders, Casualty ac ar gyfer pedair cyfres gyntaf y ddrama drosedd Law & Order: UK ar ITV1, a ddechreuodd yn Chwefror 2009.
Am rai blynyddoedd chwaraeodd ran y cymeriad Kirsty McGurk yn Pobol Y Cwm ac roedd ganddi ran doctor yn Satellite City.[2]
Yn Nhachwedd 2014, cadarnhawyd y byddai'n ysgrifennu pennod i nawfed gyfres Doctor Who, a ddarlledwyd yn 2015 gyda'r teitl "The Woman Who Lived".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "2008 Hugo Nomination List". Denvention 3: The 66th World Science Fiction Convention. World Science Fiction Society. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-21. Cyrchwyd 2008-03-21.
- ↑ "Satellite City Credits & Complete Character Guide". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-09. Cyrchwyd 2008-04-06.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Catherine Tregenna ar wefan yr Internet Movie Database