Cawg Caergwrle
Math o gyfrwng | dysgl |
---|---|
Lleoliad | Amgueddfa Werin Cymru |
Cawg neu bowlen o Oes yr Efydd yw Cawg Caergwrle, a ddarganfuwyd ger Caergwrle, Sir y Fflint, yn 1823 gan weithiwr a oedd yn torri ffos wrth ymyl Castell Caergwrle.[1] Credir gan archaeolegwyr fod y bowlen carreg glai hon, a addurnir â dail aur, yn cynrychioli cwch cynhanesyddol. Fe'i ystyrir yn wrthrych unigryw.[2] Mae ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Cawg neu bowlen o ddeunydd carreg glai (sial) yw Cawg Caergwrle. Fe'i addurnir mewn aur. Credir ei fod yn fodel llong offrymol; cafodd ei ddarganfod mewn cors a fuasai'n llyn yn Oes yr Efydd.[2]
Mae'r llestr o siap hirgron. Ar ei gwaelod ceir cyfres o linellau igam-ogam; credir eu bod yn cynrychioli tonnau, efallai. Ar un pen o'r llestr ceir pâr o gylchoedd sy'n cynrychioli llygaid efallai; ceir sawl enghraifft o lygaid yn addurno pen blaen llongau. Tua canol y llestr ceir cyfres o linellau sy'n cynrychioli rhwyfau, o bosibl. O amgylch y top ceir addurniad mewn aur sy'n awgrymu tarianau.[2]
Damcaniaethau
[golygu | golygu cod]Ceir sawl damcaniaeth am darddiad, oed a phwrpas Cawg Caergwrle. Awgrymodd un archaeolegydd ei fod yn cynrychioli un o longau gwareiddiad Tartessos yn ne Iberia, llongau a oeddynt yn eu tro yn seiliedig ar longau'r Ffeniciaid; gwyddys yr oedd morwyr Tartessa yn masnachu ym Mhrydain a gogledd-orllewin Ewrop ar ddiwedd Oes yr Efydd (tua 900-600 CC).[2]
Yn fwy diweddar, awgrymwyd cysylltiad ag Iwerddon gan fod yr aur yn tarddu o'r ynys honno; damcaniaethir mai masnachwyr o Iwerddon a offrymodd y cawg i'r duwiau.[3]
Ail-gadw
[golygu | golygu cod]Gwnaeth staff Amgueddfa Cymru waith ail—gadw ar y llestr yn ddiweddar.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 'Ail-gadw bowlen Caergwrle'[dolen farw] ar wefan Amgueddfa Cymru.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 H. N. Savory, Guide Catalogue of the Bronze Age Collections (Caerdydd, 1980).
- ↑ 'Hanes Cymru a'r Môr, S4C.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- 'Ail-gadw bowlen Caergwrle'[dolen farw], ar wefan Amgueddfa Cymru
- 'Cwch Caergwrle', Hanes Cymru a'r Môr, S4C