Neidio i'r cynnwys

Chris Elmore

Oddi ar Wicipedia
Chris Elmore
Ganwyd23 Rhagfyr 1983 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cynghorydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Shadow Minister for Scotland, Shadow Minister for Media, Data and Digital Infrastructure, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLlafur Cymru, y Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.chriselmore.wales/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd yw Christopher Philip James Elmore (ganwyd 23 Rhagfyr 1983) sydd yn Aelod Seneddol Plaid Lafur dros Ogwr ers 2016.

Bywyd a gyrfa cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed a maged Elmore yng Nghasnewydd, de Cymru, lle y dechreuodd gweitho fel darpar gigydd. Nes ymlaen mynychodd Brifysgol Cardiff Met gan wneud gradd mewn Hanes a Diwylliant yn 2005. Gweithiodd Elmore wedyn mewn nifer o feysydd gan gynnwys Addysg Bellach.

Yn 2008, etholwyd Elmore yn Gynghorydd Casteland ym Mro Morgannwg. Ar ôl cyfnod, apwyntiwyd ef yn aelod cabinet dros wasanaethau plant ac ysgolion.

Gyrfa Seneddol

[golygu | golygu cod]

Safodd Elmore yn aflwyddiannus am sedd Bro Morgannwg yn etholiad cyffredinol y DU 2015 cyn cael ei ddewis yn ymgeisydd Lafur yn is-etholiad Ogwr, 5 Mai, 2016[1]. Enillodd yr etholiad gyda mwyafrif o 8,575. Ym Mehefin 2016, daeth yn aelod o'r Pwylgor Dethol Cyfiawnder cyn ymuno â'r Pwyllgor Materion Cymreig ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno. Ym mis Hydref 2016, fe;i hapwyntiwyd i'r meinciau blaen fel Chwip yr Wrthblaid[2].

Materion ieunctid

[golygu | golygu cod]

Ers ei ethol, mae Elmore yn canolbwyntio ar fateriod ieunctid gan siarad yn aml yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y Senedd, am y pwnc. Roedd ysgogi pobl ifainc yn bwnc yr oedd Elmore wedi ymgyrchu drosto ac yntau'n gynghorydd.[3]

Polisi Rheilffyrdd

[golygu | golygu cod]

Yn 2017, cafodd Chris ei ethol yn Gadeirydd y Grŵp Seneddol Pob Plaid ar Reilffyrdd yng Nghymru. Roedd Chris wedi bod yn uchel ei gloch yn ei wrthwynebiad i benderfyniad y Llywodraeth i ganslo'r cynlluniau i drydaneiddio prif reilffordd y Great Western. At hynny, mae hefyd wedi ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â diogelwch teithwyr.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Huw Irranca-Davies
Aelod Seneddol dros Ogwr
2016 – presennol
Olynydd:
deiliad

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Wales Online - Chris Elmore selected as...
  2. Chwip yr Wrthplaid
  3. "Fabian Society". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-02. Cyrchwyd 2017-06-21.