Chwyldro Gwyddonol
Gwedd
Math o gyfrwng | oes |
---|---|
Dechreuwyd | 1543 |
Daeth i ben | 1687 |
Lleoliad | Ewrop |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cysyniad a ddefnyddir gan haneswyr i ddisgrifio datblygiad gwyddoniaeth fodern yn ystod y Cyfnod Modern Cynnar yw Chwyldro Gwyddonol. Cafodd syniadau am y byd materol eu trawsnewid gan ddatblydiadau ym meysydd mathemateg, ffiseg, seryddiaeth, bioleg (gan gynnwys anatomeg dynol) a chemeg. Yn aml, rhoddir man cychwyn y chwyldro gwyddonol fel 1543, pan gyhoeddwyd De Revolutionibus Orbium Coelestium gan Nicolaus Copernicus.
Cyhoeddiadau pwysig
[golygu | golygu cod]Dyma rai o gyhoeddiadau pwysicaf y Chwyldro Gwyddonol.
- 1543 Nicolaus Copernicus, De Revolutionibus Orbium Coelestium ("Ynglŷn â chylchdroadau sfferau'r nef") Mae'n cyflwyno theori heliosentrig ei theori i esbonio symudiadau'r planedau yn lle system geosentrig Ptolemi.
- 1543 Andreas Vesalius, De Humani Corporis Fabrica ("Ynglŷn â ffurfiad y corff dynol") Mae'n gwrthwynebu damcaniaethau ffisiolegol Galen.
- 1753 Tycho Brahe, De Nova Stella ("Ynglŷn â'r seren newydd") Mae'n gwrthbrofi athrawiaeth Aristoteles nad yw'r sfferau wybrennol byth yn newid.
- 1600 William Gilbert, De Magnete, Magneticisque Corporibus, et de Magno Magnete Tellure ("Ynglŷn â'r magnet, cyrff magnetig, a'r magnet mawr y Ddaear") Mae'n sefydlu sylfeini theori magneteg a thrydan.
- 1620 Francis Bacon, Novum Organum ("Yr offeryn newydd") Mae'n cyflwyno system newydd o resymeg fel gwelliant i system chyfresymol Aristoteles.
- 1609 Johannes Kepler, Astronomia Nova ("Y seryddiaeth newydd") Mae'n cyflwyno'r cyntaf a'r ail o'r tair deddf mudiant planedau Kepler.
- 1610 Galileo Galilei, Sidereus Nuncius ("Y negesydd serennog") Mae'n cyflwyno'r arsylwadau seryddol cyntaf a wneir gan ddefnyddio telesgop.
- 1619 Johannes Kepler, Harmonices Mundi ("Cytgord y byd") Mae'n cyflwyno'r drydedd ddeddf mudiant planedau Kepler.
- 1623 Galileo Galilei, Il Saggiatore ("Y profwr")
- 1627 Johannes Kepler, Tabulae Rudolphinae ("Tablau Rudolph")
- 1628 William Harvey, De Motu Cordis ("Ynglŷn â symud y gwaed") Mae'n dangos bod gwaed yn cylchredeg o gwmpas y corff
- 1632 Galileo Galilei, Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo ("Deialog ynglŷn â dwy brif system y byd") Mae'n cymharu cosmoleg newydd Copernicus â chosmoleg hynafol Ptolemi.
- 1637 René Descartes, Discours de la méthode ("Trafodiaeth ar y method") Mae'r llyfr yn sefydlu sail ddamcaniaethol ar gyfer y dull gwyddonol.
- 1661 Robert Boyle, The Sceptical Chymist ("Y cemegydd sgeptigol") Mae'n cyflwyno'r ddamcaniaeth bod mater yn cynnwys atomau a chlystyrau o atomau yn symud.
- 1665 Robert Hooke, Micrographia Dyma'r cyhoeddiad cyntaf o luniadau o bryfed, planhigion ac eitemau eraill a welir trwy feicrosgop
- 1687 Isaac Newton, Philosophiae Naturalis Principia Mathematica ("Egwyddorion mathemategol gwyddoniaeth") Mae'n sefydlu holl egwyddorion pwysicaf mecaneg clasurol. gan gynnwys deddfau mudiant Newton a deddf disgyrchedd cyffredinol Newton
- 1690 Christiaan Huygens, Traité de la Lumière ("Traethawd ynglŷn â goleuni") Mae'n dadlau bod goleuni'n cael eu gwneud o donnau.
- 1704 Isaac Newton, Opticks ("Opteg") Mae'n dadlau bod goleunu'n cael ei wneud o ronynnau, ac mae'n cynnwys sbectrwm o liwiau