Cyfrifiadura
Cyfrifiadura yw unrhyw weithgaredd sy'n defnyddio cyfrifiaduron. Mae'n cynnwys datblygu caledwedd a meddalwedd, a defnyddio cyfrifiaduron i reoli a phrosesu gwybodaeth, cyfathrebu a difyrru. Mae cyfrifiadureg yn elfen hanfodol bwysig o fewn y byd technolegol, ddiwydiannol modern. Mae'r prif ddisgyblaethau cyfrifiadurol yn cynnwys peirianneg gyfrifiadurol, peirianneg meddalwedd, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, systemau gwybodaeth a thechnoleg gwybodaeth.[1]
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Yn 2005, diffiniwyd 'cyfrifiadura' gan Gymdeithas Peiriannau Cyfrifiadura (Association for Computing Machinery)[2][3] fel hyn:
"Yn gyffredinol, gallwn ddiffinio 'cyfrifiadura' i olygu unrhyw weithgaredd sy'n canolbwyntio, gofyn, elwa neu'n creu cyfrifiaduron. Felly, mae cyfrifiadureg yn cynnwys dylunio ac adeiladu systemau caledwedd a meddalwedd ar gyfer ystod eang o ddibenion; prosesu, strwythuro a rheoli gwahanol fathau o wybodaeth; gwneud astudiaethau gwyddonol gan ddefnyddio cyfrifiaduron; gwneud i systemau cyfrifiadurol ymddwyn yn ddeallus; creu a defnyddio cyfryngau cyfathrebu ac adloniant; dod o hyd i wybodaeth a chasglu gwybodaeth sy'n berthnasol i unrhyw bwrpas penodol, ac yn y blaen. Mae'r rhestr bron yn ddiddiwedd, ac mae'r posibiliadau'n enfawr."
Disgrifiodd y gymdeithas y maes hwn ymhellach, gan nodi pum disgyblaeth o fewn 'maes' cyfrifiadura: gwyddoniaeth gyfrifiadurol, peirianneg cyfrifiadurol, systemau gwybodaeth, technoleg gwybodaeth a pheirianneg meddalwedd.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r gair 'cyfirifiadura' yn dod o 'gyfri' rhifau, a gellir olrhain hanes y cyfrifiadur a chyfri i'r abacws cyntaf y gwyddom amdano, a wnaed ym Mabilon yn 2400 CC. Cafwyd sawl peiriant mecanyddol yn ail hanner yr 20g, oedd yn hwyluso ac yn cyflymu'r broses o gyfrifo.
Y disgrifiad cyntaf o ddefnyddio electroneg ddigidol ar gyfer cyfrifiadura oedd mewn papur a gyhoeddwyd yn 1931, "Y Defnydd o 'Thyratrons' ar gyfer Cyfrifo Otomatig ar Gyflymder Uchel Cyfatebol y Ffenomenau Ffisegol" ("The Use of Thyratrons for High Speed Automatic Counting of Physical Phenomena") gan C. E. Wynn-Williams, Cymro Cymraeg a aned yn Abertawe, symudodd i Wrecsam a graddiodd ym Mhrifysgol Bangor.[5][6][7] Copiwyd ei waith drwy'r byd, ac agorwyd nifer o ddrysau ym maes cyfifiaduro o'i herwydd.
Y cyfrifiadur
[golygu | golygu cod]- Prif: Cyfrifiadur
Peiriant yw cyfrifiadur sy'n trin data yn ôl set o gyfarwyddiadau a elwir yn "rhaglen gyfrifiadurol". Mae gan y rhaglen ddull o weithredu y gall y cyfrifiadur ei 'ddeal' hy ei ddefnyddio'n uniongyrchol i weithredu'r cyfarwyddiadau. Mae'r un rhaglen, ar ffurf cod sy'n ddarllenadwy gan ddyn, yn galluogi rhaglenydd i astudio a datblygu dilyniant o gamau a elwir yn algorithm. Oherwydd y gellir cyflawni'r cyfarwyddiadau mewn gwahanol fathau o gyfrifiaduron, mae set sengl o gyfarwyddiadau yn cael eu trosi'n gyfarwyddiadau peiriant mewn uned prosesu canolog.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ geiriadur.bangor.ac.uk; adalwyd 31 Hydref 2018.
- ↑ The Joint Task Force for Computing Curricula 2005. "Computing Curricula 2005: The Overview Report" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (pdf) ar 2014-10-21. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Cyfieiwyd yr uchod o'r Saesneg gwreiddiol, sef: "In a general way, we can define computing to mean any goal-oriented activity requiring, benefiting from, or creating computers. Thus, computing includes designing and building hardware and software systems for a wide range of purposes; processing, structuring, and managing various kinds of information; doing scientific studies using computers; making computer systems behave intelligently; creating and using communications and entertainment media; finding and gathering information relevant to any particular purpose, and so on. The list is virtually endless, and the possibilities are vast."
- ↑ "Curricula Recommendations". Association for Computing Machinery. 2005. Cyrchwyd 2012-11-30.
- ↑ Copeland 2006, t. 64
- ↑ Wynn-Williams 1931
- ↑ Rutherford, Wynn-Williams & Lewis 1931