Cymru Yfory
Math o gyfrwng | melin drafod |
---|---|
Gwladwriaeth | Cymru |
Grŵp neu fudiad traws-bleidiol gydag aelodau sawl plaid, corff a sefydliad, ac unigolion hefyd, sydd â'r amcan o hyrwyddo'r broses datganoli yng Nghymru ac ennill mwy o rym i'r Cynulliad Cenedlaethol yw Cymru Yfory (Saesneg: Tommorow's Wales). Cafodd ei sefydlu ym mis Mawrth 2004 mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad Comisiwn Richard ar ehangu pwerau'r Cynulliad.
Mae'r grŵp yn cael ei redeg gan Weithgor, sy'n cynnwys aelodau sy'n gweithredu fel unigolion ond sy'n cynrychioli trawsdoriad o bob sector ym mywyd cyhoeddus Cymru, yn cynnwys y sector wirfoddol, busnes a diwydiant, y byd academig, y gyfraith, pleidiau gwleidyddol, undebau llafur, grwpiau diwylliannol, capeli ac eglwysi a grwpiau crefyddol eraill, a chymunedau. Mae aelodau'r gweithgor yn cynnwys Cynog Dafis AS, Michael German AC, Meri Huws, Richard Livsey, David Melding AC, y Parchedicaf Ddoctor Barry Morgan Archesgob Cymru, yr Arglwydd Elystan Morgan, Jon Owen Jones, y Parchedicaf Peter Smith Archesgob Caerdydd, a Geraint Talfan Davies.[1]
Yn ôl Cymru Yfory, prif amcan y grŵp yw "annog
- gweithredu argymhellion Adroddiad Richard
- cymdeithas sifig a’r cyhoedd i gyfrannu i drafodaeth agored, wybodus ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru
- diddordeb o fewn cymdeithas Gymreig mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, ac annog cymdeithas sifig i ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru."[2]
Mae’r mudiad yn trefnu amryw weithgareddau, yn cynnal gwefan, ac yn cysylltu'n rheolaidd â grwpiau a mudiadau eraill.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cymry Yfory: Gweithgor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-07. Cyrchwyd 2008-09-29.
- ↑ "Cymry Yfory: amcanion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-19. Cyrchwyd 2008-09-29.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Cymry Yfory Archifwyd 2008-11-19 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Comisiwn Richard Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback