Datblygu
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Label recordio | Recordiau Anhrefn |
Dod i'r brig | 1982 |
Dod i ben | Mehefin 2021 |
Genre | ôl-pync |
Yn cynnwys | David R. Edwards, Patricia Morgan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp roc arbrofol oedd yn ei anterth yn yr 1980au a'r 1990au cynnar yw Datblygu, gwelir hwy heddiw fel catalydd ton newydd o roc Cymreig yn yr 1980au cynnar.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd aelodau'r band yn cynnwys y canwr David R. Edwards (1964-2021) a'r offerynnwr T. Wyn Davies yn 1982; ymunodd Patricia Morgan yn 1984.[1][2][3] Ymadawodd Davies yn 1990 ond cariodd y band ymlaen fel deuawd am gyfnod, cyn gweithio gyda nifer o gerddorion, yn nodedig, y drymiwr Al Edwards ar gyfer y trydydd albwm Libertino yn 1993. Ar ôl sengl olaf yn 1995, diflannodd y band o sylw cyfryngau ond ni ddatganwyd erioed eu bod wedi gwahanu. Yn Awst 2008, wnaeth y band rhyddhau record 7" newydd o'r enw 'Can Y Mynach Modern' ar label Ankstmusik. Roedd y record am cael eu gweld fel ddiwedd go iawn i'r band a nid fel ddechreuad newydd.
-
14 Medi 2009
Roedd y cyflwynydd radio John Peel yn hoff iawn o'r band, a roedd yn eu chwarae yn aml ar ei sioe ar BBC Radio 1. Cafodd John Peel ei dyfynnu fel dweud "You'd have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu, this is the band that makes me want to learn the Welsh language." Wnaeth y band recordio pump sesiwnau i'r sioe John Peel; yn 1987, 1988, 1991, 1992 a 1993.
Mae Datblygu wedi eu grybwyll fel dylanwad pwysig ar y genhedlaeth o fandiau Cymraeg a ddilynodd, yn cynnwys Gorky's Zygotic Mynci a Super Furry Animals (a wnaeth fersiwn o gân Datblygu's "Y Teimlad" ar eu albwm Mwng).[1][3]
Ymddangosodd David ar rhaglen ddogfen O Flaen dy Lygaid ar S4C yn 2009, wedi ei gyflwyno gan y darlledwr a ffrind David Ali Yassine, oedd yn dilyn David a'i frwydr i wella o afiechyd meddwl. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys cyn-aelod Datblygu a chyn actores Pobol y Cwm, Ree Davies a'i brwydr hi gyda afiechyd meddwl.
Yn 2012 cynhaliwyd arddangosfa i ddathlu hanes y band mewn caffi yng Nghaerdydd.[2] Daeth Edwards a Morgan nôl at ei gilydd yn 2012 ar gyfer yr EP Darluniau'r Ogof Unfed Ganrif ar Hugain a ryddhawyd albwm fer, Erbyn Hyn, yn Mehefin 2014.[4][5]
Yn Rhagfyr 2015 ryddhawyd Porwr Trallod, albym llawn newydd gan y band (y cyntaf ers 22 mlynedd) ar Recordiau Ankstmusik.
Yn Awst 2020 ryddhawyd sengl dwbl "Cymryd y Cyfan / Purdeb Noeth" ac albwm newydd ar feinyl Cwm Gwagle, drwy label Ankstmusik.[6] Hwn oedd cynnyrch cerddorol olaf y grŵp cyn marwolaeth David R. Edwards ym Mehefin 2021.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Casetiau Neon
- Amheuon Corfforol - casét EP; tua 1982
- Trosglwyddo'r Gwirionedd ('Transferring the truth') - casét EP]]; tua 1983
- Fi Du ('Me black') - casét EP; tua 1984
- Caneuon Serch I Bobl Serchog - casét EP; tua 1985
- Recordiau Anhrefn
- Hwgr Grawth-Og - 7" EP; 1986
- Wyau - LP; 1988
- Recordiau Ofn
- Ankst
- Blwch Tymer Tymor - casét LP; 1991
- Peel Sessions: No AIDS, No Salmonella, and No Gulf War Respectively - LP; 1992 (Albwm gasgliad o 3 o 5 Peel Session y band)
- Libertino - CD; 1993
- Alcohol / Amnesia - sengl; 1995
- Wyau / Pyst - CD; 1995 (dau albwm gynt mewn un)
- Ankstmusik
- Datblygu 1985 - 1995 - CD; 1999 (casgliad o senglau, EPs a thraciau a'u rhyddhawyd gynt)
- Wyau, Pyst a Libertino - CD ddwbl; 2004 (y 3 albwm cynt ar CD ddwbl)
- Darluniau'r Ogof Unfed Ganrif ar Hugain - 7" feinyl/digidol; 26 Tachwedd 2012, Ankst 132
- Erbyn Hyn - Albwm fer CD/digidol; 26 Mai 2013, Ankst 136
- Porwr Trallod - 12" feinyl + CD; 2015
- "Cymryd y Cyfan / Purdeb Noeth" - Sengl dwbl, 7 Awst 2020
- Cwm Gwagle - LP, 12" feinyl; 29 Awst 2020, Ankst 151
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Strong, Martin C. (2003) "The Great Indie Discography", Canongate, ISBN 1-84195-335-0
- ↑ 2.0 2.1 Hill, Sarah (2012) "Datblygu Trideg", Wales Arts Review. Adalwyd 18 Mehefin 2014
- ↑ 3.0 3.1 "Wales’ poet laureate of doubt who made perfect sense to a generation", Wales Online, 17 Chwefror 2012. Adalwyd 18 Mehefin 2014
- ↑ Tucker, Simon (2014) "Datblygu: Erbyn Hyn. Official Mini-Album Launch", Louder than War, 6 Mai 2014. Retrieved 18 June 2014
- ↑ "Datblygu celebrate new album release", Carmarthen Journal, 14 Mai 2014. Adalwyd 18 Mehefin 2014
- ↑ Sengl ddwbl Datblygu. Y Selar (20 Gorffennaf 2020). Adalwyd ar 27 Mehefin 2021.