David James Jones (Gwenallt)
David James Jones | |
---|---|
Ffugenw | Gwenallt |
Ganwyd | 18 Mai 1899 Pontardawe |
Bu farw | 24 Rhagfyr 1968 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd |
Cyflogwr | |
Priod | Nel Edwards |
Roedd Gwenallt (18 Mai 1899 – 24 Rhagfyr 1968) (David James Jones) yn un o feirdd mwyaf yr 20g. Fe'i ganwyd ym Mhontardawe ond fe symudodd y teulu yn fuan i'r Alltwen, yng Nghwm Tawe.
Ei fywyd a'i waith
[golygu | golygu cod]Cafodd marwolaeth ei dad a laddwyd gan fetel tawdd yn y gwaith tun effaith ddofn arno. Er ei fagu mewn ardal ddiwydiannol roedd dylanwad ardal wledig Rhydcymerau Sir Gaerfyrddin arno hefyd, am iddo ymweld ac aros gyda pherthnasau yno lawer yn ei fachgendod.
Roedd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac fe'i siomwyd pan na chafodd ei apwyntio i fod yn Athro ar yr adran i ddilyn T. H. Parry-Williams. Ef oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn llenyddol Taliesin a gyhoeddir gan yr Academi Gymreig.
Am ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol fe'i carcharwyd yn Wormwood Scrubs a Dartmoor ac ysgrifennodd ei nofel Plasau'r Brenin o ganlyniad i'r profiad hwnnw.
Daeth yn amlwg fel bardd pan enillodd ei awdl Y Mynach gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926. Enillodd y Gadair eto yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1931 gyda Breuddwyd y Bardd.
Pan yn ifanc arferai fynd i'r capel yn gyson ond wedyn coleddodd syniadau Marcsaidd. Newidiodd ei farn eto a daeth yn Genedlaetholwr Cymraeg a Bardd Cristnogol oedd Gwenallt.[1] Mae recordiad o Gwenallt yn darllen tri o'i gerddi ar gael ar CD a gwefan gan Sain.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Nofelau
[golygu | golygu cod]- Plasau'r Brenin (1934)
- Ffwrneisiau (1982)
Cerddi
[golygu | golygu cod]- Ysgubau'r Awen (1939)
- Cnoi Cil (1942)
- Eples (1951)
- Gwreiddiau (1959)
- Y Coed (1969)
- Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn, gol. Christine James (2001)
- http://www.sainwales.com/store/sain/sain-scd2718 Archifwyd 2015-02-22 yn y Peiriant Wayback
Gwaith golygyddol a beirniadaeth lenyddol
[golygu | golygu cod]- (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd, 1934)
- (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936)
- (gol.), Detholiad o Ryddiaith Gymraeg R. J. Derfel (Caerdydd, 1945)
- Cofiant Idwal Jones (1958)
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]Paratowyd llyfryddiaeth o weithiau Gwenallt gan Iestyn Hughes (1983).
- J. E. Meredith, Gwenallt, Bardd Crefyddol (1974)
- Dafydd Rowlands (gol.), Bro a Bywyd: Gwenallt (1982)
- Alan Llwyd, Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones, 1899-1968 (2016)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ D. Ben Rees, Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif ( Cyhoeddiadau Modern Cymru, 1972)
- Genedigaethau 1899
- Marwolaethau 1968
- Beirdd yr 20fed ganrif o Gymru
- Beirdd Cristnogol o Gymru
- Beirdd Cymraeg o Gymru
- Gwrthwynebwyr cydwybodol o Gymru
- Heddychwyr o Gymru
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Gymru
- Nofelwyr Cymraeg o Gymru
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera
- Pobl o Sir Gaerfyrddin
- Prifeirdd
- Ysgolheigion yr 20fed ganrif o Gymru
- Ysgolheigion Cymraeg o Gymru