De Ewrop
Defnyddir y term De Ewrop i gyfeirio at yr holl wledydd yn ne Ewrop. Fodd bynnag, ar adegau gwahanol mae'r cysyniad o dde Ewrop wedi amrywio yn seiliedig ar gyd-destunau gwleidyddol, ieithyddol a diwylliannol yn ogystal ag elfennau megis daearyddiaeth neu hinsawdd. Mae'r mwyafrif o wledydd arfordirol yn ffinio â Môr y Canoldir. Yr eithriadau yw Portiwgal sydd ar fôr yr Iwerydd, Serbia a Gweriniaeth Macedonia sydd wedi'u hamgylchynu gan dir a Bwlgaria sy'n ffinio â'r Môr Du.
Diffiniad daearyddol
[golygu | golygu cod]Yn ddaearyddol, de Ewrop yw hanner deheuol tir Ewrop. Mae'r diffiniad hwn fodd bynnag yn gymharol, heb ffiniau clir. Mae mynyddoedd yr Alpau a'r Massif Central yn creu ffin ffisegol rhwng yr Eidal a Ffrainc a gweddill Ewrop.
Yn ddaearyddol, ystyrir y gwledydd canlynol yn rhan o dde Ewrop:
- Andorra
- Portiwgal (yn cynnwys: Madeira ac Azores)
- Sbaen (yn cynnwys: Ynysoedd Balearig)
- Gibraltar (tir Prydeinig tramor)
- Yr Eidal (yn cynnwys: Sardinia a Sisili)
- San Marino
- Dinas y Fatican
- Albania
- Bosnia a Hercegovina
- Bwlgaria
- Croatia (o dan Sava a Kupa)
- Groeg (yn cynnwys: Ynysoedd Aegean, Crete, a'r Ynysoedd Ionaidd)
- Montenegro
- Serbia (o dan Sava a'r Danube)
- Gogledd Macedonia
- Cosofo
- Twrci (yn cynnwys: Dwyrain Thrace)
Eraill
[golygu | golygu cod]- Croatia (weithiau ystyrir ardaloedd gogleddol (Slavonia, Zagreb, Međimurje a Zagorje) fel Canol Ewrop)
- Cyprus (yn ddaearyddol yn rhan o Asia ond fe'i ystyrir yn Ewropeaidd am resymau hanesyddol a diwylliannol)
- Malta (yn cynnwys: Gozo)
- Rwmania (ystyrir Northern Dobruja yn ne Ewrop ac weithiau Wallachia. Weithiau ystyrir Transylvania fel rhan o Ganol Ewrop)
- Serbia (weithiau ystyrir y rhannau gogleddol o (Vojvodina, ogledd Belgrade, ardal Mačva) yn rhan o Ganol Ewrop)
- Slofenia (ardal o Primorska)