Neidio i'r cynnwys

Diffibriliad

Oddi ar Wicipedia


Defibrillation Electrode Position.jpg
Darlun sy'n dangos ble y gosodir yr electrodau wrth roi triniaeth diffribiliad.
Deffibrilad
Pecyn Diffibriliad ar gael yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Mae diffibriliad yn driniaeth ar gyfer dysrhythmia cardiaidd sy'n bygwth bywyd, ffibriliad fentrigl yn benodol a thacardia fentriglaidd nad yw'n darflifo .[1][2] Mae diffibriliwr yn rhoi dogn o gerrynt trydanol (a elwir yn aml yn wrthsioc) i'r galon. Er yw'n cael ei ddeall yn llawn, mae'n yn dad-bolareiddio cyfran fawr o gyhyr y galon, gan ddod â'r dysrhythmia i ben. Wedi hynny, mae rheolydd naturiol y galon yng nghnotyn sinoatriaidd y galon yn gallu sefydlu rhythm sinws normal unwaith eto.[3]

Yn wahanol i ddiffibrilio, mae cardiofersiwn sioc drydanol sy'n cael ei rhai yn gydamserol â'r gylchred gardiaidd. Er y gall y person fod yn ddifrifol wael o hyd, fel arfer mae cardiofersiwn yn anelu at roi terfyn ar ddiarhythmau cardiaidd sy'n darlifo'n wael, fel tachycardia suprafentriciwlar .[1][2]

Gall diffibrilwyr fod yn allanol, yn drawswythiennol, neu wedi'u mewnblannu, yn dibynnu ar y math o ddyfais a ddefnyddir neu sydd ei angen.[4] Mae rhai unedau allanol, a elwir yn ddiffibrilwyr allanol awtomataidd (AEDs), yn awtomeiddio'r diagnosis o rythmau y gellir eu trin, sy'n golygu y gall ymatebwyr lleyg neu'r rhai sy'n digwydd bod yno eu defnyddio'n llwyddiannus gydag ychydig, neu fawr ddim, hyfforddiant.[2]

Diffibrilwyr ar Gael yn Gyfleus

[golygu | golygu cod]

Mae pecynnau diffibriliad ar gael ar hyd a lle Cymru mewn mannau cyfleus i'r cyhoedd neu'r gwasanaethau brys i'w defnyddio mewn achosion megis trawiad ar y galon neu fethiant y galon. Cafwyd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r adnoddau hyn gall achub bywydau pobl megis ymgyrch tynnu ffoto hunlun gyda diffibrilydd yn 2018 a arweiniwyd gan Ambiwlans Awyr Cymru a Llywodraeth Cymru.[5] Caiff yr arian ar gyfer cynnal, lleoli a chadw'r pecynnau eu codi godi gan waith elusenol mudiadau fel Ambiwlans Awyr Cymru a Calonnau Cymru a gwaith codi arian nawdd gan wirfoddolwyr.[6]

Bydd y pecynnau diffibrilwyr yn cael eu cadw mewn mannau cyfleus a chyhoeddus gan gynnwys swyddfeydd y cyngor, siopau, canolfannau hamdden neu atyniadau twristaidd lle bydd cyhoedd yn ymweld e.e. ger y traeth neu gyrchfan awyr agored.[7]

Yn 2021 galwodd ymgyrchydd, Bryn Roberts o Lanberis am gynyddu nifer y diffibriliadau ac yn enwedig mewn mannau cyhoedd megis caeau chwaraeon.[8] Daeth yr alwad yn dilyn marwolaeth chwaraewr rygbi ifanc i Clwb Rygbi Cwmllynfell, Alex Evans ar y cae mewn gêm ar 21 Awst.[9]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Ong, ME; Lim, S; Venkataraman, A (2016). "Defibrillation and cardioversion". In Tintinalli JE; Stapczynski J; Ma O; Yealy DM (gol.). Tintinalli's Emergency Medicine: A Comprehensive Study Guide, 8e. McGraw-Hill (New York, NY).
  2. 2.0 2.1 2.2 Kerber, RE (2011). "Chapter 46. Indications and Techniques of Electrical Defibrillation and Cardioversion". In Fuster V; Walsh RA; Harrington RA (gol.). Hurst's The Heart (arg. 13th). New York, NY: McGraw-Hill.
  3. Werman, Howard A.; Karren, K; Mistovich, Joseph (2014). "Automated External Defibrillation and Cardiopulmonary Resuscitation". In Werman A. Howard; Mistovich J; Karren K (gol.). Prehospital Emergency Care, 10e. Pearson Education, Inc. t. 425.
  4. Hoskins, MH; De Lurgio, DB (2012). "Chapter 129. Pacemakers, Defibrillators, and Cardiac Resynchronization Devices in Hospital Medicine". In McKean SC; Ross JJ; Dressler DD; Brotman DJ (gol.). Principles and Practice of Hospital Medicine. New York, NY: McGraw-Hill.
  5. http://www.aberystwyth-today.co.uk/article.cfm?id=118989&headline=Take%20a%20selfie%20with%20your%20local%20defibrillator%20for%20Defibuary&sectionIs=news&searchyear=2018
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-05. Cyrchwyd 2019-04-01.
  7. https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/LocalServices/default.aspx?s=DefibrillatorLocations&locale=cy[dolen farw]
  8. https://golwg.360.cymru/newyddion/2064283-ymgyrchydd-galw-hyfforddiant-diffibrilwyr-nghymru
  9. https://golwg.360.cymru/chwaraeon/rygbi/2064003-teyrngedau-chwaraewr-rygbi-farw