Domitian
Domitian | |
---|---|
Portread o Domitian ar ddarn arian o gelc Llanfaches Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru | |
Ganwyd | Titus Flavius Domitianus 24 Hydref 0051 Rhufain |
Bu farw | 18 Medi 0096 o clwyf drwy stabio Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Vespasian |
Mam | Domitila'r Hynaf |
Priod | Domitia Longina |
Plant | Titus Flavius Caesar, Flavia, Vespasian the Younger, Domitian the Younger |
Llinach | Brenhinlin Flavia, Flavii Sabini |
Caesar Domitianus Augustus neu Domitian (24 Hydref 51 OC – 18 Medi 96 OC) oedd Ymerawdwr Rhufain o 14 Medi 81 OC hyd ei farwolaeth. Ganwyd Titus Flavius Domitianus.
Domitian oedd mab ieuengaf Vespasian a Domitila. Ei frawd hŷn, Titus oedd ffefryn ei dad. Rhoddodd ei dad yr addysg orau posibl i Titus, ond cafodd Domitian lawr llai o addysg. Roedd gan Domitian ddau fab, ond bu'r ddau farw yn ieuanc. Pan fu farw Titus, ar 13 Medi 81, daeth Domitian yn ymerawdwr. Yn ystod ei deyrnasiad bu brwydro ym Mhrydain, Germania ac yn arbennig yn erbyn Decebalus, brenin Dacia o gwmpas Afon Donaw. Ni fu'n llwyddiannus, ac yn y diwedd bu'n rhaid iddo dalu swm mawr o arian i'r Daciaid i sicrhau heddwch. Bu hefyd yn brwydro yn erbyn y Sarmatiaid.
Llofruddiwyd ef ar 18 Medi 96 yn 45 oed, yn dilyn cynllwyn gan ei wraig Domicia a phennaeth Gard y Praetoriwm. Penododd y senedd Nerva fel ei olynydd.
Rhagflaenydd: Titus |
Ymerawdwr Rhufain 14 Medi 81 OC – 18 Medi 96 OC |
Olynydd: Nerva |