Edward Tegla Davies
Edward Tegla Davies | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1880 Llandegla |
Bu farw | 9 Hydref 1967 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, gweinidog yr Efengyl |
Llenor o Gymru a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (31 Mai 1880 – 9 Hydref 1967) oedd Edward Tegla Davies. Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger Rhuthun yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Goleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlchgwyn, ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel gweinidog Wesla am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid, a'r Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams. Fe'i gladdwyd yn Nhregarth, ger Bethesda.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Rhestr o Gymry a wrthododd "Anrhydedd Brydeinig"
Gwrthododd gynnig i dderbyn OBE, gan ysgrifennu at ffrind, 'Ni allaf ddychmygu fy hun yn "Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig" pan oeddwn wedi ymrwymo fy mywyd i wasanaethu Un a fu farw ar groes'. Ond derbyniodd ddau anrhydedd o Brifysgol Cymru, gradd MA er anrhydedd ym 1924 a DLitt ym 1958, am ei gyfraniad at lenyddiaeth Gymreig.[1]
Gwaith Llenyddol
[golygu | golygu cod]Ysgrifennai ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byrion, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.
Llyfrau i blant yn bennaf
[golygu | golygu cod]- Hunangofiant Tomi (Bangor, 1912)
- Tir Y Dyneddon (Caerdydd a Wrecsam, 1921)
- Nedw (Wrecsam, 1922)
- Rhys Llwyd Y Lleuad (Wrecsam, 1925)
- Hen Ffrindiau (Wrecsam, 1927)
- Y Doctor Bach (Wrecsam, 1930)
- Stori Sam (1938)
Llyfrau eraill
[golygu | golygu cod]- Gŵr Pen y Bryn (Wrecsam, 1923). Nofel.
- Y Llwybr Arian (Wrecsam, 1934). Straeon.
- Gyda'r Glannau (Llandybïe, 1941). Nofel fer.
- Rhyfedd o Fyd (1950). Ysgrifau.
- Y Foel Faen (Lerpwl, 1951). Ysgrifau.
- Gyda'r Blynyddoedd (1951). Hunangofiant.
- Ar Ddisberod (1954). Ysgrifau.
- Yr Hen Gwpan Cymun (1961). Pregethau.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
- Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
- Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
- Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
- Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372
- R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Elis, I. (2004, September 23). Davies, (Edward) Tegla (1880–1967), Wesleyan Methodist minister and author. Oxford Dictionary of National Biography. Ed. Retrieved 11 Feb. 2019, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-61275.