Elffin ap Gwyddno
Math o gyfrwng | cymeriadau chwedlonol |
---|
Elffin ap Gwyddno yw noddwr Taliesin Ben Beirdd yn y chwedl Hanes Taliesin a thraddodiadau eraill o'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato weithiau fel Elffin yn unig; y sillafiad cynharaf ar ei enw yw Elphin (Llyfr Taliesin 19.23). Roedd Elffin yn fab i'r cymeriad chwedlonol neu led-hanesyddol Gwyddno Garanhir, a gysylltir â theyrnas Ceredigion a chwedl Cantre'r Gwaelod, y tir a gollwyd i'r môr ym Mae Ceredigion. Ym marn rhai ysgolheigion, un o arwyr yr Hen Ogledd oedd Elffin yn wreiddiol, ond cafodd y traddodiadau amdano eu trawsblannu yng Nghymru.
Llinach
[golygu | golygu cod]Yn ôl y testun achyddol Bonedd Gwŷr y Gogledd (sy'n rhoi llinach rhai o arwyr yr Hen Ogledd), mae Elffin, trwy ei dad Gwyddno, ei daid Cawrdaf, a’i hendaid Garmonion, yn un o ddisgynyddion Dyfnwal Hen ac, efallai, Macsen Wledig ac Elen Luyddog (diwedd y 4g).[1] Yn ôl cofnod yn llawysgrif Peniarth 131 (1480–1550?), roedd ganddo ddau frawd, sef Cann ac Idris Arw. Cyfeirir at frawd arall yn Yr Areithiau Pros, Edeyrn fab Gwyddno Garanhir, "y gwr a aeth i ymgyfredec a’r gwynt pann ddoeth dirvawr lynges i ddwyn gwraic Ffin vab Koed i drais"[2].
Noddwr Taliesin
[golygu | golygu cod]Ond cofir Elffin yn bennaf am ei gysylltiad â'r Taliesin chwedlonol, Taliesin Ben Beirdd. Yn ail ran y chwedl Hanes Taliesin, mae Elffin yn cael hyd i'r Taliesin newyddanedig yn hongian mewn cwd lledr ar bolyn yng Nghored Wyddno, ger Aberdyfi, ar fore Calan Mai. Elffin a roes ei enw iddo. Cododd y baban a dywedodd wrth ei was "Llyma dal iesin" ('Dyma dalcen teg'): "Taliesin bid!" atebodd y baban.[3] Canodd y baban gerdd iddo, 'Dihuddiant Elffin,' a oedd ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Mae'n dechrau gyda'r pennill
- 'Elffin teg, taw a'th wylo;
- Ni wna lles drwg obeithio;
- Ni chad yng ngored Wyddno
- Erioed gystal â henno.'
Yn ddiweddarach, mae Elffin yn gael ei gipio a'i garcharu gan Maelgwn Gwynedd, a geisiai brofi diweirdeb ei wraig. Yn yr ymryson barddol sy'n dilyn, yn llys Maelgwn Gwynedd yn Negannwy, bu gornest rhwng Taliesin a beirdd llys Maelgwn i ryddhau Elffin. Ceir sawl cyfeiriad at hyn yn y cerddi a dadogir ar Daliesin yn Llyfr Taliesin. Cyfeirir ato mewn dau o 'Englynion y Beddau' yn ogystal (Llyfr Du Caerfyrddin). Ar ôl iddo gael ei ryddhau mae Elffin yn ennill ras ceffylau ac yn darganfod crochan sy'n llawn o aur. Dyma'r tal i Elffin a'i wraig am feithrin Taliesin.
Mae Taliesin yn pwysleisio, yn y gerdd 'Hanes Taliesin', mai "prifardd cyffredin" ydyw i Elffin. Cyfeirir at Daliesin sawl gwaith fel bardd Elffin yng ngwaith y beirdd, e.e. gan Lewys Môn a Wiliam Cynwal[4] Weithiau mae beirdd fel Dafydd Benfras a Tudur Aled yn cymharu noddwyr i Elffin.
Cysylltir Elffin ag Addaon fab Taliesin yn y chwedl fwrlesg Cymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy:
- "Idawc," heb y Ronabwy, "pwy y marchawc gynneu?" "Y gwas ieuanc kymhennaf a doethaf a wneir yn y teyrnas hon, Adaon uab Telessin." "Pwy oed y gwr a drewis y varch ynteu?" "Gwas traws fenedic, Elphin uab Gwydno."[5]
Llenyddiaeth ddiweddarach
[golygu | golygu cod]Yn 1829, cyhoeddodd y llenor Thomas Love Peacock (1785-1866) nofel fer hynod o'r enw The Misfortunes of Elphin. Mae hi'n nofel fwrlesg sy'n seiliedig yn fras ar hanes Elffin a Taliesin yn y chwedl ond sy'n cynnwys yn ogystal hanes Cantre'r Gwaelod a sawl cymeriad o hanes traddodiadol Cymru. Mae ffynonellau Peacock yn anhysbys, ond mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â Hanes Taliesin. Ymwelodd â Meirionnydd sawl gwaith a phriododd ferch leol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), t. 238.
- ↑ Gwenallt (gol.), Yr Areithiau Pros, 15.6–9.
- ↑ P.K. Ford (gol.), Ystorya Taliesin (Caerdydd, 1992), t. 69.
- ↑ Eurys Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn, XCII.41–2; Gruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal, 36.53–6; 51.49–50.
- ↑ Melville Richards (gol.), Breuddwyd Rhonabwy (Caerdydd, 1948), t. 8, llau. 14–19.