Flora Forster
Flora Forster | |
---|---|
Ganwyd | 1896 Abertawe |
Bu farw | 1981 |
Man preswyl | Casnewydd, y Barri, Coleg Homerton, Caergrawnt, Dudley, Solihull |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro |
Cysylltir gyda | D. J. Williams |
Roedd Flora Forster yn addysgwraig ac yn awdur. Fe'i ganwyd yn St Thomas, Abertawe yn 1896, yn ferch i Joseph ac Alice Forster. Peiriannydd ar y rheilffyrdd oedd Joseph Forster, ac roedd yn ddisgynnydd i Jonathan Forster o Wylam, un o ddyfeiswyr yr injan stêm gynnar 'Puffing Billy'. Erbyn 1911 roedd y teulu'n byw yn Penmaen Terrace uwchlaw yr Uplands yn Abertawe.
Addysg
[golygu | golygu cod]Aeth Flora i Ysgol Dynevor yn y dre ac yn 1915 dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth Mary Ewart i astudio Saesneg am dair blynedd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen. Un o'i chyfoedion yno, a ffrind iddi weddill ei hoes, oedd Margaret Kennedy, a aeth yn ei blaen i greu cryn argraff yn y 1920au gyda'i nofel The Constant Nymph. Daeth hefyd ar draws myfyriwr hŷn o Rydcymerau yn Sir Gaerfyrddin, D. J. Williams, a bu cyfeillgarwch a gohebiaeth rhwng y ddau hyd at 1925. Cedwir yr ohebiaeth yng Nghasgliad D. J. Williams yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gwrthododd gynigion gan D. J. Williams i'w phriodi.
Llenydda
[golygu | golygu cod]Dangosodd Flora Forster addewid fel bardd yn ystod ei chyfnod yn Rhydychen, a chyhoeddwyd ei thelyneg 'Ducklington' yn Oxford Poetry yn 1917, gan dderbyn cymeradwyaeth Aldous Huxley. Dechreuodd ysgrifennu straeon i blant, a chyhoeddwyd y gyfrol Brown de Bracken gyda darluniau gan Gabriel Pippet gan Blackwell yn 1922. Troswyd un stori i'r Gymraeg gan D. J. Williams fel 'Llwyd y Rhedyn' a'i chyhoeddi yn Cymru'r Plant yn 1923. Cyhoeddodd Flora Forster ambell stori arall mewn casgliadau. Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr yn yr ohebiaeth rhyngddi a D. J. Williams yw'r modd y maent yn trafod llenyddiaeth y dydd a meysydd llafur yr ysgolion.
Gyrfa: athrawes, darlithydd, prifathrawes
[golygu | golygu cod]Ar ôl graddio yn 1918 cafodd swydd yn dysgu Saesneg a Lladin yn Newport High School yng Nghasnewydd. Yn 1920 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri. Aeth wedyn i swydd yng Ngholeg Homerton, Caergrawnt, coleg hyfforddi, yn 1922 a'r flwyddyn ganlynol fe'i penodwyd i swydd arall mewn coleg hyfforddi yn Dudley, Canolbarth Lloegr. Pan sefydlwyd ysgol uwchradd newydd i ferched yn Malvern Hall, Solihull, yn 1931 fe'i penodwyd yn brifathrawes gan ddal y swydd yn Solihull High School for Girls hyd at ei hymddeoliad yn 1961. Roedd yn uchel iawn ei pharch yn yr ardal a chynigir ysgoloriaeth yn ei henw o hyd (2018) i fyfyrwyr yng nghylch Solihull. Bu farw yn 1981.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Flora Forster, Brown de Bracken (1922)
Gwybodaeth fywgraffyddol yn seiliedig ar dystiolaeth Cyfrifiad 1911, y llythyrau yng Nghasgliad D. J. Williams a gwybodaeth a dderbyniwyd gan Adran Treftadaeth Cyngor Solihull.