Neidio i'r cynnwys

Foxe's Book of Martyrs

Oddi ar Wicipedia
Foxe's Book of Martyrs
Tudalen o'r argraffiad cyntaf o Actes and Monuments.
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurJohn Foxe Edit this on Wikidata
CyhoeddwrJohn Day Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Prif bwncmerthyroleg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Merthyroleg gan y pregethwr Piwritanaidd John Foxe yw Actes and Monuments, a elwir gan amlaf yn Foxe's Book of Martyrs, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1563. Mae'n cynnwys hanesion y merthyron Protestannaidd a chyn-Brotestannaidd, gyda phwyslais arbennig ar Loegr a'r Alban.

Cyflawnwyd y gwaith yn ystod y Diwygiad Protestannaidd Seisnig, ar anterth erledigaeth yn erbyn y Protestannaidd yn ystod adferiad Catholig y Frenhines Mari I. Ffoes Foxe i'r cyfandir ac yn Strasbwrg cyhoeddodd rhan o'i ferthyroleg yn Lladin, dan y teitl Commentarii rerum in ecclesia gestarum (1554). Aeth Foxe i Frankfurt am Main a Basel, a pharhaodd i weithio ar ei ferthyroleg gyda chymorth llawysgrifau a ddanfonesid iddo o Loegr, a chyhoeddodd ddiweddariad ym 1559. Yn sgil marwolaeth Mari ym 1558 ac ailsefydlogi Eglwys Loegr dan y Frenhines Elisabeth I, dychwelodd Foxe i Lundain i orffen ei waith. Defnyddiodd gofrestri swyddogol ac atgofion gan dystion i ehangu ei hanes o'r erledigaeth yn ystod teyrnasiad Mari, ac aeth ati i drosi'r holl waith i'r Saesneg. Cyhoeddwyd Actes and Monuments of these Latter and Perillous Dayes ym Mawrth 1563 gan yr argraffydd John Day, ac yn fuan enillodd yr enw poblogaidd The Book of Martyrs. Cyhoeddodd Foxe ail argraffiad o'i ferthyroleg ym 1570, a mân-ddiwygiadau ym 1576 a 1583.[1]

Cafodd y llyfr hwn ddylanwad pwysig ar hanes cynnar Eglwys Loegr a datblygiad yr hunaniaeth Brotestannaidd yn Lloegr a'r Alban. Am genedlaethau o Saeson, dyma un o'r tri llyfr a gedwid ar silff y teulu Anglicanaidd duwiol, ochr yn ochr â Beibl Saesneg y Brenin Iago (1611) a The Pilgrim's Progress (1678) gan John Bunyan. Câi'r Book of Martyrs hefyd ei feio am ennyn gwrth-Gatholigiaeth yn Lloegr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) John Foxe. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Awst 2019.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • William Haller, The Elect Nation: The Meaning and Relevance of Foxe's Book of Martyrs (Efrog Newydd: Harper & Row, 1963).