Neidio i'r cynnwys

Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1974

Oddi ar Wicipedia
Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1974
Math o gyfrwngdigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1974 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd24 Ionawr 1974 Edit this on Wikidata
Daeth i ben2 Chwefror 1974 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadChristchurch Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 1974 British Commonwealth Games Edit this on Wikidata
RhanbarthChristchurch Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
10fed Gemau'r Gymanwlad Brydeinig
Campau59
Seremoni agoriadol24 Ionawr
Seremoni cau2 Chwefror
Agorwyd yn swyddogol ganDug Caeredin
IX XI  >

Gemau'r Gymanwlad Brydeinig 1974 oedd y degfed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Christchurch, Seland Newydd oedd cartref y Gemau rhwng 24 Ionawr - 2 Chwefror. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn Christchurch yn ystod Gemau 1970 yng Nghaeredin gyda Christchurch yn sicrhau 36 pleidlais a Melbourne 2.

Dychwelodd saethu i'r Gemau ar draul ffensio a chafwyd athletwyr o Botswana, Lesotho, Manu Samoa, Tonga ac Ynysoedd Cook am y tro cyntaf.

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Timau yn cystadlu

[golygu | golygu cod]

Cafwyd 38 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 1974 gyda Botswana, Lesotho, Manu Samoa, Tonga ac Ynysoedd Cook yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau

[golygu | golygu cod]
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Awstralia Awstralia 29 28 25 82
2 Baner Lloegr Lloegr 28 31 21 80
3 Baner Canada Canada 25 19 18 62
4 Baner Seland Newydd Seland Newydd 9 8 18 35
5 Baner Cenia Cenia 7 2 9 18
6 Baner India India 4 8 3 15
7 Baner Yr Alban Yr Alban 3 5 11 19
8 Baner Nigeria Nigeria 3 3 4 10
9 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 3 1 2 6
10 Baner Wganda Wganda 2 4 3 9
11 Baner Jamaica Jamaica 2 1 0 3
12 Baner Cymru Cymru 1 5 4 10
13 Baner Ghana Ghana 1 3 5 9
14 Baner Sambia Sambia 1 1 1 3
15 Baner Maleisia Maleisia 1 0 3 4
16 Baner Tansanïa Tansanïa 1 0 1 2
17 St Vincent 1 0 0 1
18 Baner Trinidad a Tobago Trinidad a Tobago 0 1 1 2
Baner Samoa Manu Samoa 0 1 1 2
20 Baner Singapôr Singapôr 0 0 1 1
Gwlad Swasi 0 0 1 1
Cyfanswm 121 121 132 374

Medalau'r Cymry

[golygu | golygu cod]

Roedd 69 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Pat Bevan Nofio 200m Dull broga
Arian Berwyn Price Athletau 110m Dros y clwydi
Arian John Davies Athletau 3000m
Arian Erroll McKenzie Bocsio Pwysau welter
Arian Ieuan Owen Codi Pwysau Pwysau ysgafn
Arian William Watkins Saethu Calibr bychan
Efydd Philip Lewis Saethu Trap shot-gun
Efydd Ruth Jones Athletau naid hir
Efydd Robert Wrench Codi Pwysau Pwysau canol
Efydd Terry Perdue Codi Pwysau Pwysau uwch-drwm

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Rhagflaenydd:
Caeredin
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Edmonton