Geraint Bowen
Gwedd
Geraint Bowen | |
---|---|
Ganwyd | 10 Medi 1915 Llanelli |
Bu farw | 16 Gorffennaf 2011 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Priod | Zonia Bowen |
Bardd yn hanu o Lanelli, Sir Gaerfyrddin, oedd y Dr. Geraint Bowen (10 Medi 1915 – 16 Gorffennaf 2011). Treuliodd ei ieuenctid yng Ngheinewydd, Ceredigion. Roedd wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, Gwynedd. Bu'n Arolygydd Ysgolion am gyfnod.
Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946. Mae cwpled o'r awdl, bellach, yn epigram poblogaidd iawn:
Y gŵr a arddo'r gweryd
A heuo faes - gwyn ei fyd.
Roedd Geraint yn Archdderwydd o 1978 tan 1981. Roedd e'n frawd i'r bardd y diweddar Euros Bowen ac yn ŵr i Zonia Bowen, sefydlydd Merched y Wawr.
Cerddi
[golygu | golygu cod]- Awdl Foliant i Amaethwr
- Cân y Ddaear
- Cân yr Angylion
- T. Gwynn Jones (Y Bardd Celtaidd)
- Cwm Llynor
- Y Drewgoed
- Cywydd y Coroni
- Yr Aran
- Prynhawnddydd
- Dr. Gwenan Jones
- Teyrnged i Gwyndaf
- Cyfarch Bro Myrddin
- Ar Doriad Gwawr
- Branwen
- a llawer o gerddi eraill.