Grŵp yn y tabl cyfnodol
Math | cyfres gemegol |
---|---|
Rhan o | tabl cyfnodol |
Mae grŵp yn deulu o elfennau tebyg mewn colofn fertigol o'r tabl cyfnodol.
Ystyrir grwpiau yn un o brif nodweddion defnyddiol y tabl cyfnodol. Mae bron pob grŵp yn cynnwys elfennau tebyg, gyda phatrymau ym mhriodweddau'r elfennau wrth fynd i lawr grŵp. Rhoddir enwau i nifer o'r grwpiau hyn, yn cynnwys y Metelau alcalïaidd (grŵp 1), yr Halogenau (grŵp 7) a'r nwyon nobl (grŵp 0). Mae rhai grwpiau, yn enwedig yn y bloc-p, yn dangos llai o debygrwydd ymysg yr elfennau felly nid oes enw ychwanegol (e.e. Grŵp 14 a Grŵp 15). Gall theorïau mecaneg cwantwm modern o adeiledd atomig egluro'r patrymau hyn. Mae pob elfen yn yr un grŵp yn cynnwys yr un nifer o electronau yn eu plisg falens (y plisg allanol) sy'n rheoli eu priodweddau cemegol.
Y grwpiau
[golygu | golygu cod]Dyma grwpiau’r tabl cyfnodol:
Trefn rhifo newydd IUPAC | Yr hen IUPAC (Ewropeaidd) | CAS (Americanaidd) | Enw |
---|---|---|---|
Grŵp 1 | IA | IA | Y metalau alcalïaidd neu deulu'r lithiwm |
Grŵp 2 | IIA | IIA | Y metelau daear alcalïaidd neu deulu'r beriliwm |
Grŵp 3 | IIIA | IIIB | Teulu'r sgandiwm sy'n cynnwys yr elfennau Daear prin a'r actinadau |
Grŵp 4 | IVA | IVB | Y teulu titaniwm |
Grŵp 5 | VA | VB | Y teulu Fanadiwm |
Grŵp 6 | VIA | VIB | Y teulu cromiwm |
Grŵp 7 | VIIA | VIIB | Y teulu manganis |
Grŵp 8 | VIII | VIIIB | Y teulu haearn |
Grŵp 9 | VIII | VIIIB | Y teulu cobalt |
Grŵp 10 | VIII | VIIIB | Y teulu nicel |
Grŵp 11 | IB | IB | Y teulu efydd |
Grŵp 12 | IIB | IIB | Y teulu sinc |
Grŵp 13 | IIIB | IIIA | "the triels", y teulu boron |
Grŵp 14 | IVB | IVA | "the tetrels", y teulu carbon |
Grŵp 15 | VB | VA | Y teulu nitrogen |
Grŵp 16 | VIB | VIA | Y teulu Chalcogenau neu'r teulu ocsigen |
Grŵp 17 | VIIB | VIIA | Yr halogenau |
Grŵp 18 | Group 0 | VIIIA | Y teulu nwyon nobl neu weithiau'r teulu heliwm neu neon |