Neidio i'r cynnwys

Gwen Ellis

Oddi ar Wicipedia
Gwen Ellis
GanwydGwen Ellis
1954
Caernarfon, Gwynedd
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materPrifysgol Bryste
Galwedigaethactores, awdures, cyfarwyddydd a cwnselydd
Cysylltir gydaHwyl a Fflag
PriodWyn Bowen Harris

Actores, awdures a chyfarwyddydd o Gymraes yw Gwen Ellis (ganwyd 1954). Bu'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers dros 40 mlynedd.[1]

Fe'i magwyd yng Nghaernarfon tan yn 8 oed, cyn symyd i Abergwaun wedi i'w thad gael ei benodi yn ddiprwy yn yr ysgol. Magodd ei diddordeb ym myd y ddrama yr ysgol uwchradd ac aeth yn ei blaen i astudio Drama a Ffrangeg ym Mhrifysgol Bryste. Wedi graddio aeth yn ei blaen i hyfforddi fel athrawes.

Bu'n portreadu mam y bardd Hedd Wyn yn y ffilm gafodd ei enwebu am Oscar, Hedd Wyn ym 1992. Roedd hi'n un o sefydlwyr cwmni theatr Hwyl a Fflag a bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru.[2]

Mae'n briod gyda'r actor Wyn Bowen Harris ac mae ganddynt un mab, Rhys.

Hyfforddodd fel Cwnselydd gyda'r elsuen Relate a bu'n rhan o'r gyfres Gwesty Aduniad i S4C.[3]

Theatr

[golygu | golygu cod]

Teledu a Ffilm

[golygu | golygu cod]
  • Rhydeglwys

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Regan Talent Group | Gwen Ellis" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-14.
  2. "Gwen Ellis". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-14.
  3. "Gwen Ellis – Y Flwyddyn Aeth Heibio". Ogwen360. 2021-04-15. Cyrchwyd 2024-09-14.