Gwn
Arf a ddefnyddir i saethu taflegryn megis bwled yw gwn neu ddryll (lluosog: "gynnau"). Gallant fod o amryw o feintiau: yn ddigon bach i'w ddal mewn un llaw, neu'n ddigon mawr i danio taflegryn a all suddo llong ryfel.
Gelwir gwn sy'n defnyddio tanwydd i'w danio yn arf tân. Mae pistolau, rifolferi, a reifflau i gyd yn arfau tân. Gelwir drylliau y defnyddir gydag un llaw yn llawddrylliau.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae'n fwy na thebyg mai enw Norwyeg am ferch, Gunnhildr, oedd tarddiad y gair 'gwn', ac roedd yn arferiad enwi gynnau ar ôl merched tan yn ddiweddar, a hynny mewn sawl iaith e.e. Mons Meg (15c) a Big bertha(Ail Ryfel Byd).[1] Mae tarddiad y gair gunnrhildr yn filwrol ei natur gyda gunnr a hildr yn golygu rhyfel mewn Norwyeg. Ceir un o'r cofnodion cyntaf o'r gair yng Nghofnodion arfau Castell Windsor yn 1330, sef gwn o'r enw Domina Gunilda, erfyn eitha mawr, o fath balista: "Una magna balista de cornu quae vocatur Domina Gunilda." (Balista enfawr o Gernyw, o'r enw "Lady Gunilda".)
Y cofnod cyntaf o wn bychan, sef yr ystyr modern i'r gair, yw hwnnw gan Chaucer: The Hous of Fame (c.1384):
- Went this foule trumpes soun As swifte as pelet out of gonne Whan fire is in the poudre ronne. (Went this foul trumpet sound As swift as a pellet out of a gun when fire is running in the powder.)
Hanes
[golygu | golygu cod]Y ddyfais cyntaf y gellir rhoi'r gair 'gwn', sef erfyn a ddefnyddiai bowdwr gwn i yrru ei daflegryn (saeth) oedd y math a ddyfeisiwyd yn Tsieina tua 1,000 Ô.C.[3] Roeddent wedi dyfeisio powdwr gwn tua thri chan mlynedd cyn hyn, a hynny drwy ymchwil y 'gwyddonwyr' cynnar i alcemi.[4][5][6]
Niferoedd gynnau gan sifiliaid
[golygu | golygu cod]Mae nifer y gynnau a gedwir gan sifiliaid gwledydd y byd yn amrywio'n fawr, gyadg Unol Daleithiau America ac Alaska ymhlith yr uchaf.
Yr Unol Daleithiau yw'r unig wlad lle mae nifer y gynnau'n uwch na nifer y bobl h.y. mae gan bob cant o bobl yr UD gyfartaledd o 112 o ynnau. Yn y pegwn arall, mae'r nifer lleiaf o ynnau yn Tiwnisia, sef un gwn gan bob mil o bobl (.1 gwn rhwng pob 100). Un o'r ffactorau sy'n cyfri am hyn yw cyfoeth y wlad, gyda gwledydd cyfoethog (o ran arian) yn uwch na gwledydd tlawd.[2][7][8]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ wordorigins.org; Archifwyd 2016-05-07 yn y Peiriant Wayback adalwyd Hydref 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Keith Krause, Eric G. Berman, gol. (August 2007). "Small Arms Survey 2007 – Chapter 2. Completing the Count: Civilian Firearms". Geneva, Switzerland: Small Arms Survey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-27. Cyrchwyd 2013-06-20.CS1 maint: uses editors parameter (link)
- ↑ Judith Herbst, The History Of Weapons, Lerner Publications, 2005, tud. 8
- ↑ Buchanan 2006, t. 2 "With its ninth century AD origins in China, the knowledge of gunpowder emerged from the search by alchemists for the secrets of life, to filter through the channels of Middle Eastern culture, and take root in Europe with consequences that form the context of the studies in this volume."
- ↑ Needleham 1986, t. 7 "Without doubt it was in the previous century, around +850, that the early alchemical experiments on the constituents of gunpowder, with its self-contained oxygen, reached their climax in the appearance of the mixture itself."
- ↑ Chase 2003, tt. 31–32
- ↑ Vladeta Ajdacic-Gross, Martin Killias, Urs Hepp, Erika Gadola, Matthias Bopp, Christoph Lauber, Ulrich Schnyder, Felix Gutzwiller, Wulf Rössler (October 2006). "Firearm suicides and the availability of firearms: analysis of longitudinal international data". Rockville Pike, Bethesda MD, USA: US National Library of Medicine, National Istitutes of Health. Cyrchwyd 2016-03-20.CS1 maint: uses authors parameter (link)
- ↑ Martin Killias (1993). "Gun Ownership, Suicide and Homicide: An International Perspective" (PDF). Turin, Italy: United Nations Interregional Crime and Justice Research Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-12-24. Cyrchwyd 2016-03-20.