Gwybyddiaeth
Gwedd
Term gwyddonol am "broses y meddwl" yw gwybyddiaeth h.y. sut mae bodau dynol yn canfod, cofio, dysgu a meddwl am wybodaeth. Amrywia'r defnydd o'r term mewn meysydd gwahanol; er enghraifft yn seicoleg a gwyddoniaeth gwybyddol, cyfeiria gan amlaf at swyddogaethau seicolegol unigolyn wrth brosesu gwybodaeth. Caiff ei ddefnyddio hefyd fel elfen o seicoleg gymdeithasol a elwir gwybyddiaeth gymdeithasol er mwyn esbonio agweddau, priodoliad a deinameg grŵp.