Gwyn ab Ednywain
Gwyn ab Ednywain | |
---|---|
Ganwyd | Eifionydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | Distain |
Blodeuodd | 12 g |
Cyflogwr | |
Cysylltir gyda | Gruffudd ap Cynan ab Owain, Llywelyn Fawr |
Gwyn ab Ednywain (fl. 1170 - 1215) oedd distain Teyrnas Gwynedd ar ddechrau'r 13eg. Prin yw'r dystiolaeth amdano. Roedd yn uchelwr o Eifionydd. Enw ei ferch oedd Generys.
Ceir y cyfeiriad cyntaf ato fel un o'r tystion i'r siarter a roddodd Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1200) i Abaty Aberconwy. Yn 1199 mae Gwyn ymhlith y tystion i'r siarter gan Llywelyn Fawr i'r un abaty, ar 6 Ionawr, 1199. Gellir casglu felly ei fod yng ngwasanaeth Llywelyn y pryd hynny ar adeg pan geisiai gadarnhau ei awdurdod yng Ngwynedd. Mae'n debyg iddo barhau yng ngwasanaeth y tywysog a dod yn ddistain iddo yn gynnar yn y 13g. Cofnodir ei bresenoldeb fel tyst i siarteri eraill yn ?1205, ?1208 a 1209. Yn 1209 roedd yn derbyn arian i Lywelyn gan y brenin John o Loegr ar ran y tywysog, gyda'r clerigwr Meistr Ystrwyth.
Ar ei farwolaeth yn 1215 fe olynwyd fel distain gan Ednyfed Fychan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984). Atodiad II.
O'i flaen : ? |
Disteiniaid Gwynedd Gwyn ab Ednywain |
Olynydd : Ednyfed Fychan |