Gymiau gwin
Gwedd
Melysion traddodiadol ym Mhrydain yw gymiau gwin (ffurf unigol: gwm gwin). Maent yn jelïau o flasau, lliwiau a siapiau gwahanol a wneir o gelatin neu bectin. Gan amlaf ceir enwau gwahanol gwinoedd a diodydd alcoholaidd eraill ar y melysion. Er yr enw, nid oes alcohol ynddynt.[1]
Dyfeisiwyd gan Charles Gordon Maynard, etifedd y cwmni Maynards, ym 1909. Bu'n rhaid iddo berswadio ei dad, Charles Riley Maynard, nad oedd y melysion yn cynnwys gwin. Yr enwau ar gymiau gwin Maynards yw "port", "sherry", "champagne", "burgundy", a "claret".[2] Mae brandiau eraill yn cynhyrchu gymiau gwin gydag enwau eraill gan gynnwys brandi, jin, seidr, hoc, coniac, a rỳm, er nad yw rhai o'r diodydd hyn yn winoedd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) The Wine Gum Flavors Debate. Wombania. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
- ↑ (Saesneg) Maynards Factsheet. Cadbury. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Rysáit gymiau gwin
- (Saesneg) Rysáit gymiau gwin