Hannah Mitchell
Hannah Mitchell | |
---|---|
Ganwyd | Hannah Maria Webster 11 Chwefror 1872, 1871 Hope Woodlands |
Bu farw | 22 Hydref 1956 Manceinion |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Hannah Mitchell (11 Chwefror 1872 - 22 Hydref 1956) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.[1] Yn 2012 ffurfiwyd 'Sefydliad Hannah Mitchell', fforwm ar gyfer datblygu llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Lloegr.
Ganed Hannah Maria Webster yn Hope Woodlands, Swydd Derby, Lloegr ar 11 Chwefror 1872 a bu farw ym Manceinion.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed i deulu tlawd ar dyddyn bychan yn Swydd Derby; roedd yn un o 6 o blant.[2] Ni chafodd addysg ffurfiol, er bod ei thad wedi'i dysgu i ddarllen. Arhosodd gartref gan lle gweithiai gyda'i mam, nad oedd yn ei hoffi. Disgwylid iddi edrych ar ôl ei thad a'i brodyr, ond roedd ganddi syniadau llawer mwy beiddgar.[3][4]
Gadawodd Hannah ei chartref pan oedd yn ifanc iawn i weithio fel gwniadwraig yn Bolton, lle daeth yn rhan o'r mudiad sosialaidd. Bu'n gweithio am nifer o flynyddoedd mewn sefydliadau yn ymwneud â sosialaeth, pleidlais menywod a heddychiaeth. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ei hethol i Gyngor Dinas Manceinion a bu'n gweithio fel ynad, cyn gweithio yn ddiweddarach i arweinydd y Blaid Lafur, Keir Hardie.[5]
Yn Bolton, dechreuodd Mitchell wella ei haddysg, gan obeithio, am gyfnod, bod yn athrawes.[6] Cafoddd swydd ar aelwyd ysgolfeistr, a ganiataodd iddi fenthyg ei lyfrau.[7]
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd Gibbon Mitchell yn 1895 a chawsant fab. Nid oedd am ychwaneg o blant, gan na chredai y gallent fforddio rhagor, a hwythau mor dlawd.[8]
Ymgyrchu
[golygu | golygu cod]Ymunodd gyda'r ymgyrch dros hawliau merched, a chafodd swydd gan Emmeline a Christabel Pankhurst, yn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Women's Social and Political Union neu'r WSPU).[9] Dechreuodd areithio'n gyhoeddus, a theithiodd hyd a lled Lloger yn gwneud hynny, yn enwedig cyn isetholiadau.[10] Yn 1907, yn ôl ei meddyg, cafodd iselder ysbryd a achoswyd gan ddiffyg maeth a gorweithio.[10] Camodd Charlotte Despard i'r adwy, gan edrych ar ei hôl.[10] Yn ei bywgraffiad, dywed Mitchell iddi deimlo'n ofidus gan na wnaeth yr un o'r Pankursts gysylltu a hi, na'i chynorthwyo.[9] Yn 1908 gadawodd y WSPU, ac ymunodd gyda mudiad newydd: y Women's Freedom League.[9]
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, trodd ei hegni tuag at y mudiad dros heddwch, a gweithiodd fel heddychwr.
Yystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Lafur. a bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Routledge, tud. 317
- ↑ Alport Castles Archifwyd 2007-10-29 yn y Peiriant Wayback, Peakland Heritage. Retrieved 16 Hydref 2015
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Alport Castles Archifwyd 2007-10-29 yn y Peiriant Wayback, Peakland Heritage. Adalwyd 16 Hydref 2015
- ↑ Stanley Holton, tud. 94
- ↑ Stanley Holton, tud. 95
- ↑ Rosen, tud. 41
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Purvis
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Crawford, tud. 417