Harold Finch
Harold Finch | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1898 y Barri |
Bu farw | 16 Gorffennaf 1979 Ysbyty Sant Gwynllŵg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Gwleidydd o Gymru oedd Syr Harold Josiah Finch (2 Mai 1898 - 16 Gorffennaf, 1979). Roedd yn undebwr a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Bedwellte rhwng 1950 a 1970.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Cafodd Finch ei eni yn Y Barri yn 1898 yn fab i Josiah Coleman Finch, arolygwr rheilffyrdd, ac Emmie (née Keedwell) ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn ysgol elfennol y Barri, gan ymadael a'r ysgol yn 14 mlwydd oed.
Ym 1922 priododd Gladys, merch Arthur Hinder, bu iddynt un mab ac un ferch.
Undebwr llafur
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r ysgol cafodd swydd fel clerc gyda Chwmni Rheilffyrdd y Barri. Wedi cyfnod yn y Coleg Llafur Canolog [1] dechreuodd ei gysylltiad â Ffederasiwn Glowyr de Cymru ym 1919 pan benodwyd ef yn ysgrifennydd ardal Tredegar o'r Ffederasiwn. Ym 1935 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i ardal De Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Rhwng 1951 a 1960 roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Undeb Cenedlaethol y Glowyr.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Etholwyd Finch i Gyngor Mynyddislwyn ym 1922, gan wasanaethu fel cadeirydd y cyngor am dymor 1932-1933. Wedi i Syr Charles Edwards ymddeol o'r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1950 dewiswyd Finch yn olynydd iddo fel ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd Bedwellte. Cadwodd y sedd gyda 83% o'r bleidlais.
Etholiad cyffredinol 1950: Bedwellte Etholfrain: 40,370, | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Harold Finch | 31,329 | 83.4 | ||
Ceidwadwyr | RC Pitman | 6,247 | 16.6 | ||
Mwyafrif | 25,082 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 85.5 | ||||
Llafur yn cadw | Gogwydd |
Yn y senedd gwasanaethodd fel llefarydd yr wrthblaid ar ynni ac egni rhwng 1959 a 1960. Roedd yn ysgrifennydd Grŵp Seneddol y Glowyr rhwng 1964 a 1966, a fu'n cadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig. Fe'i penodwyd yn weinidog pan sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym mis Hydref 1964.[2] Ymddeolodd o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1970.
Cafodd ei ddyrchafu yn farchog yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y frenhines ym 1969 am ei wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.[3]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Ysbyty Sant Gwynllŵg Casnewydd o grebachiad cerebrol yn 81 mlwydd oed.[4]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Memoirs of a Bedwellty M.P., Starling Press Limited 1 Mai 1972 (Hunangofiant)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ J Graham Jones Welsh Labour Politicians in the Inter-war Years. Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion 1983, Tud 174 adalwyd 7 Mawrth 2019
- ↑ Y Traethodydd Cyfrol CXXXVIII 1983 Trafod materion Cymraeg yn y Senedd adalwyd 7 mawrth, 2019
- ↑ Anhysbys 1976, Jun 12. Birthday Honours. The Guardian (1959-2003), 6. ISSN 02613077.
- ↑ Copi Dilys o Gofnod Marwolaeth Rhif 1453251/1 Dosbarth Cofrestru Casnewydd, Sir Gwent. 17/7/1979
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Charles Edwards |
Aelod Seneddol dros Bedwellte 1950 – 1970 |
Olynydd: Neil Kinnock |