Lancelot Thomas Hogben
Lancelot Thomas Hogben | |
---|---|
Ganwyd | 9 Rhagfyr 1895 Portsmouth |
Bu farw | 22 Awst 1975 Wrecsam |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, genetegydd, ystadegydd, swolegydd, llenor, ieithydd |
Swydd | Athro Regius mewn Hanes Natur |
Cyflogwr |
|
Priod | Enid Charles |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Croonian Medal and Lecture, Medal Keith |
Sŵolegydd arbrofol ac ystadegydd meddygol o Loegr oedd Lancelot Thomas Hogben (9 Rhagfyr 1895 – 22 Awst 1975).
Bu'n byw yng Nglyn Ceiriog lle priododd ferch leol, a bu farw yn Wrecsam. Yn ôl yr Athro Gareth Ffowc Roberts, "Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn y Gymraeg... aeth ati o ddifrif i geisio'i meistroli." Yn 1957 priododd Jane Roberts, prifathrawes gynradd yn Nyffryn Ceiriog.[1]
Datblygodd y broga crafanc Affricanaidd (enw gwyddonol: Xenopus laevis) fel organeb enghreifftiol ar gyfer ymchwil fiolegol yn gynnar yn ei yrfa, ymosododd ar y mudiad ewgeneg yng nghanol ei yrfa, a phoblogeiddiodd lyfrau ar wyddoniaeth, mathemateg ac iaith ar ddiwedd ei yrfa.[2][3][4][5]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd Hogben ei eni a'i fagu yn Southsea ger Portsmouth yn Hampshire, Lloegr i rieni efengylaidd iawn; bu farw ei dad pan oedd Lancelot yn 11 oed. Yn ddyn ifanc, torrodd yn rhydd o grafangau crefyddol y teulu. Yn 1907, symdodd y teulu i Stoke Newington, Llundain, lle mynychodd Ysgol Sir Tottenham; yn wir, roedd ei fam wedi'i geni a'i magu yn yr ardal.
Academia
[golygu | golygu cod]Yn fyfyriwr meddygol, astudiodd ffisioleg yn Ngholeg y Drindod, Caergrawnt,[3] lle graddiodd ym 1916, (gradd Gyffredin). Erbyn hyn roedd yn sosialydd i'r carn: newidiodd enw'r Fabian Society i'r 'Gymdeithas Sosialaid'.[6] Dau ddylanwad mawr arno yn y cyfnod hwn oedd y Marcsydd William Morris a'r Sosialydd Cymreig o'r Drenewydd, Robert Owen.
Wedi graddio, bu'n darlithio yn Llundain, cyn symud i Gaeredin i wneud gradd ymchwil ar anifeiliaid ac yna ymlaen i Brifysgol MacGill yng Nghanada, cynn iddo gael ei benodi'n Athro Swoleg ym Mhrifysgol Tref y Penrhyn (Cape Town), De Affrica lee gweithiodd ar lyffantod a phrofion beichiogrwydd menywod.[7] Gwrthwynebodd bolisi apartheid De Affrica yn ddigyfaddawd a symudoddodd yn 1930 i Ysgol Economeg Llundain fel Athro Bywydeg Cymdeithas lle gwnaeth waith pwysig mewn geneteg.
Cydwybod cymdeithasol
[golygu | golygu cod]Roedd yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol, ac yn wrthwynebydd cydwybodol, fel y nodwyd. Yn 1958 ymunodd gyda'r Crynwyr. Ond yn ddiweddarach, roedd yn well ganddo ddisgrifio'i hun fel 'dyneiddiwr gwyddonol' yn hytrach nac fel 'sosialydd'.[8]
Roedd gan Hogben egwyddorion solat, ac un o'r rhai mwyaf cadarn oedd ei sosialaeth: credai y gallai mathemateg fod yn arf yn nwylo'r werin bobol er mwyn iddynt fedru rheoli eu tynged eu hunain.[9] Ar ôl iddo ddod i adnabod Cymru, dyfnahodd ei gydwybod cymdeithasol a'i ymdeimlad o anhegwch o fewn y gymdeithas. Canlyniad hyn oedd y cafwyd "min ac awch", chwedl yr Athro Gareth Ffowc Roberts, ar ei waith.
Y ddau Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Y Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu | golygu cod]Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn heddychwr a gweithiodd am chwe mis gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, dan adain Gwasanaeth Rhyddhad Dioddefwyr Rhyfel y Cyfeillion ac yna Uned Ambiwlans y Cyfeillion. Yna dychwelodd i Gaergrawnt, a chafodd ei garcharu yn Wormwood Scrubs fel gwrthwynebydd cydwybodol ym 1916, yn un deg chwech oed. Wedi cyfnod o waeledd, rhyddhawyd ef ym 1917. Roedd ei frawd George hefyd yn wrthwynebydd cydwybodol ac yn gwasanaethu gydag Uned Ambiwlans y Cyfeillion.
Priododd Hogben ym 1918 â'r mathemategydd, ystadegydd, a ffeminist Enid Charles o Ddinbych, a chawsant ddau fab a dwy ferch.[3] Fel y nodwyd, ailbriododd yn 1957 gyda Janes Roberts, prifathrawes gynradd yn Nyffryn Ceiriog.
Yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Gorfodwyd Hogben i weithio fel ystadegydd ym myddin Lloegr, a gwrthododd wisgo lifrai. Trodd ei heddychiaeth a'i ddaliadau yn ei erbyn, yn academia. Gweithiodd yn Napoli ar gyffuriau gwrtheiotig a sut y gall gorddefnydd o'r cyfuriau beri i facteria esblygu'n superbugs na ellir mo'u difa ee MRSA.
Gadawodd y fyddin yn 1942 ac aeth i weithio fel Athro Swoleg ym Mhrifysgol Birmingham.
Roedd gwaith Lancelot (a oedd bryd hynny yn Birmingham) ac Enid wedi eu cadw ar wahân drwy'r Ail Ryfel Byd a daeth eu perthynas dan straen. I geisio closio, prynnodd dŷ yng Nglyn Ceiriog, ond daeth eu perthynas i ben yn 1953.
Gwaith a gyhoeddwyd
[golygu | golygu cod]- A Short Life of Alfred Russel Wallace (1823-1913), p. 64 (London, Society for Promoting Christian Knowledge, 1918)[10]
- Exiles of the Snow, and Other Poems (1918)
- An Introduction to Recent Advances in Comparative Physiology (1924) gyda Frank R. Winton
- The Pigmentary Effector System. A review of the physiology of colour response (1924)
- Comparative Physiology (1926)
- Comparative Physiology of Internal Secretion (1927)
- The Nature of Living Matter (1930)
- Genetic Principles in Medical and Social Science (1931)
- Nature or Nurture - The William Withering Lectures for 1933 (1933)
- Mathematics for the Million: A Popular Self-Educator (London, George Allen & Unwin, 1936), illustrated by Frank Horrabin, Primers for the Age of Plenty - No. 1. Re-issued in the United States by W. W. Norton & Company, Inc. (1937).[11]
- The Retreat from Reason (1936) Conway Memorial Lecture 20 Mai 1936, chaired by Julian Huxley.[12]
- Science for the Citizen: A Self-Educator Based on the Social Background of Scientific Discovery (London, George Allen & Unwin, 1938), illustrated by Frank Horrabin, Primers for the Age of Plenty - No. 2.
- Political Arithmetic: A Symposium of Population Studies (1938) golygydd
- Dangerous Thoughts (1939)
- Author in Transit (1940)
- Principles of Animal Biology (1940)
- Interglossa: A Draft of an Auxiliary for a Democratic world order, Being an Attempt to Apply Semantic Principles to Language Design (1943)
- The Loom of Language: A Guide To Foreign Languages For The Home Student gan Frederick Bodmer (1944), ac a olygwyd gan Hogben, Primers ar gyfer The Age of Plenty - No. 3.
- An Introduction to Mathematical Genetics (1946)
- History of the Homeland: The Story of the British Background gan Henry Hamilton (1947), edited by Hogben, Primers for the Age of Plenty - No. 4.
- The New Authoritarianism (1949) Conway Memorial Lecture 1949[13]
- From Cave Painting To Comic Strip: A Kaleidoscope of Human Communication (1949)
- Chance and Choice by Cardpack and Chessboard (1950)
- Man Must Measure: The Wonderful World of Mathematics (1955)
- Statistical theory. The relationship of probability, credibility and error. An examination of the contemporary crisis in statistical theory from a behaviorist viewpoint (1957)
- The Wonderful World Of Energy (1957)[14]
- The Signs of Civilisation (1959)
- The Wonderful World of Communication (1959)
- Mathematics in the Making (1960)
- Essential World English (1963) gyda Jane Hogben a Maureen Cartwright
- Science in Authority: Essays (1963)
- The Mother Tongue (1964)
- Wales for the Welsh — A Tale of War and Peace with Notes for those who Teach or Preach (1967)
- Beginnings and Blunders or Before Science Began (1970)
- The Vocabulary Of Science (1970) gyda Maureen Cartwright
- Astronomer Priest and Ancient Mariner (1972)
- Maps, Mirrors and Mechanics (1973)
- Columbus, the Cannon Ball and the Common Pump (1974)
- How The World Was Explored, golygydd, gyda Marie Neurath a Joseph Albert Lauwerys
- Hogben, Anne; Hogben, Lancelot Thomas; Hogben, Adrian. Lancelot Hogben: scientific humanist: an unauthorised autobiography (1998)[15]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfri'n Cewri; t. 75. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
- ↑ Sarkar, S. (1996). "Lancelot Hogben, 1895-1975". Genetics 142 (3): 655–660. PMC 1207007. PMID 8849876. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1207007.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Bud, Robert (2004). "Lancelot Hogben". The Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press) 1. doi:10.1093/ref:odnb/31244.
- ↑ Tabery, J. (2008). "R. A. Fisher, Lancelot Hogben, and the origin(s) of genotype-environment interaction". Journal of the History of Biology 41 (4): 717–761. doi:10.1007/s10739-008-9155-y. PMID 19244846.
- ↑ Tabery, J. (2007). "Biometric and developmental gene–environment interactions: Looking back, moving forward". Development and Psychopathology 19 (4): 961–976. doi:10.1017/S0954579407000478. PMID 17931428. https://archive.org/details/sim_development-and-psychopathology_fall-2007_19_4/page/961.
- ↑ Cyfri'n Cewri; t. 78. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
- ↑ Cyfri'n Cewri; t. 79. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
- ↑ Kunitz, Stanley J. a Haycraft, Howard Awduron yr Ugeinfed Ganrif, Geiriadur Bywgraffyddol Llenyddiaeth Fodern , (Trydydd Argraffiad). Efrog Newydd, The H.W. Cwmni Wilson, 1950, (tt. 658–59)
- ↑ Cyfri'n Cewri; t. 84. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
- ↑ Milo Keynes. "Lancelot Hogben, FRS (1895-1975)". Galton Institute December 2001 Newsletter. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2015. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014.Reprinted from Notes and Records of the Royal Society, London, 1999; vol. 53: pp. 361-369, part 2 Archifwyd 24 Medi 2015 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Phillip Gething, "Forum: A whiff of optimism – Whatever happened to self-improvement?", New Scientist, 21 Gorffennaf 1990. Retrieved 6 Ionawr 2019.
- ↑ "1936 Lancelot Hogben: The Retreat From Reason". Conway Hall Ethical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014.
- ↑ "1949 Lancelot Hogben: The New Authoritarianism". Conway Hall Ethical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014.
- ↑ Gale, Floyd C. (Medi 1958). "Galaxy's 5 Star Shelf". Galaxy Science Fiction. t. 104.
- ↑ Hogben, Anne; Hogben, Lancelot Thomas; Hogben, Adrian (1998). Lancelot Hogben: scientific humanist: an unauthorised autobiography. London: Merlin. ISBN 978-0-85036-470-5.