Laurent Fignon
Laurent Fignon | |
---|---|
Ganwyd | Laurent Patrick Fignon 12 Awst 1960 18fed arrondissement Paris |
Bu farw | 31 Awst 2010 13th arrondissement of Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol, llenor |
Cyflogwr | |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Renault, Système U, Castorama, Chateau d'Ax |
Gwlad chwaraeon | Ffrainc |
Seiclwr proffesiynol o Ffrainc oedd Laurent Patrick Fignon[1] (12 Awst 1960 – 31 Awst 2010), roedd yn arbennigo mewn rasio ffordd. Enillodd y Tour de France ym 1983 a 1984, a collodd allan ym 1989, gan ddod yn ail o ddim ond 8 eiliad, y gwahaniaeth lleiaf erioed i bendefynnu canlyniad y tour.[2] Enillodd hefyd y Giro d'Italia ym 1989, wedi iddo ddod yn ail ym 1984, a chlasur Milan – San Remo ym 1988 a 1989. Bu farw o gancr ar 31 Awst 2010.
Bywyd a gyrfa cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Fignon ym Montmartre, Paris.[1][3][4] Symudodd ei deulu i Tournan-en-Brie ym 1963, lle bu'n byw hyd iddo adael am Baris pan oedd yn 23 oed.[5][6]
Chwaraeon cyntaf Fignon oedd pêl-droed, ac aeth ymlaen i gynyrchioli ei département. Cafodd ei annogi gan ffrindiau i seiclo, a cystadlodd yn ei ras gyntaf swyddogol ym 1976, gan ennill.[6] Doedd rhieni Fignon ddim eisiau iddo rasio, felly cystadlodd heb iddynt wybod.[1] Enillodd bedwar ras arall yn ei flwyddyn gyntaf, ond dim ond un yn ei ail flwyddyn. Yn ei drydedd flwyddyn o gystadlu, enillodd 18 allan o'r 36 ras iddo gychwyn.[6] Pendwrfynnodd ei rieni i'w ganiatáu i rasio, ond roeddent yn credu y dylai barhau i astudio. Aeth Fignon i Brifysgol Villetaneuse, gan astudio Gwyddoniaeth Deunydd a Strwythrau.[1] Ni aeth ei astudiaethau'n dda, a buan bu iddo adael. Ymunodd â'r fyddin, ac anfonwyd i'r Bataillon de Joinville, a oedd yn adnabyddus am ei enw da ym maes chwaraeon. Wedi hyn, roedd Fignon yn sicr ei fod eisiau dilyn gyrfa fel seiclwr proffesiynol.[1]
Ym 1981, cystadlodd Fignon yn Tour Corsica, lle roedd reidwyr amatur a phroffesiynol yn cystadlu gyda'i gilydd. Llwyddodd Fignon i ddilyn Bernard Hinault am y ran helaeth o'r ras.[1] Pan reidiodd y treial amser tîm cenedlaethol 100 km, deliodd sylw y cyn-reidiwr a'r rheolwr, Cyrille Guimard, a roddodd le iddo ar ei dîm proffesiynol Renault-Elf-Gitane ym 1982, ag yntau ond yn 21 oed.[6]
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]- 1982
- 1af Critérium National
- 1af Flèche Azuréene
- 1af Garancières-en-Beauce
- 1af GP de Cannes
- 1af Cymal 1 TTT Giro d'Italia
- 1983
- 1af Tour de France (a Cymal 21)
- 1af Grand Prix de Plumelec-Morbihan
- Cymal, Tirreno–Adriatico
- Cymal, Critérium International
- Cymal, Vuelta a España
- 1984
- 1af Tour de France (a Cymalau 7, 16, 18, 20 a 22)
- 1af Brenin y Mynyddoedd, 2il Giro d'Italia (a Cymal 20)
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd Ffrainc
- 1986
- 1af La Flèche Wallonne
- Cymal, Critérium du Dauphiné Libéré
- 1987
- Dau gymal, Paris–Nice
- 3ydd Vuelta a España (a Cymal)
- 7th Tour de France (a Cymal 21)
- 1988
- 1af Milan – San Remo
- Cymal, Critérium International
- 1af Paris–Camembert
- 1989
- 1af Giro d'Italia (a Cymal 20)
- 1af Milan – San Remo
- 2il Tour de France (Gwobr brwydrol a Cymal 18)
- 1af Ronde van Nederland
- 1af Grand Prix des Nations
- 1af Trofeo Baracchi (gyda Thierry Marie)
- 1990
- 1af Critérium International
- 1991
- 6ed Tour de France
- 1992
- 23ydd Tour de France (a Cymal 11)
- 1993
- 1af Ruta Mexico
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Laurent Fignon. Telegraph (31 Awst 2010). Adalwyd ar 1 Medi 2010.
- ↑ Rider biographies: Greg LeMond. Cycling hall of fame. Adalwyd ar 31 Awst 2010.
- ↑ Jean Cau. Laurent Fignon.
- ↑ Laurent Fignon. L'Équipe. Adalwyd ar 31 Awst 2010.
- ↑ Tournan pleure Laurent Fignon (1 Medi 2010).
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 Edward Pickering (31 Awst 2010). Laurent Fignon: My way or the fairway. Cycling Weekly. IPC Media Ltd.. Adalwyd ar 31 Awst 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Proffil Laurent Fignon ar Cycling Archives
- Canlyniadau swyddogol Tour de France Laurent Fignon
- Laurent Fignon ar wefan Internet Movie Database