Leo Varadkar
Leo Varadkar TD | |
---|---|
Varadkar yn 2020 | |
Tánaiste | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 27 Mehefin 2020 | |
Taoiseach | Micheál Martin |
Rhagflaenwyd gan | Simon Coveney |
14eg Taoiseach | |
Yn ei swydd 14 Mehefin 2017 – 27 Mehefin 2020 | |
Arlywydd | Michael D. Higgins |
Tánaiste | Frances Fitzgerald Simon Coveney |
Rhagflaenwyd gan | Enda Kenny |
Dilynwyd gan | Micheál Martin |
Arweinydd Fine Gael | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 2 Mehefin 2017 | |
Dirprwy | Simon Coveney |
Rhagflaenwyd gan | Enda Kenny |
Gweinidog Amddiffyn | |
Yn ei swydd 14 Mehefin 2017 – 27 Mehefin 2020 | |
Rhagflaenwyd gan | Enda Kenny |
Gweinidog dros Faterion Cyflogaeth ac Amddiffyn Cymdeithasol | |
Yn ei swydd 6 Mai 2016 – 14 Mehefin 2017 | |
Taoiseach | Enda Kenny |
Rhagflaenwyd gan | Joan Burton |
Dilynwyd gan | Regina Doherty |
Gweinidog Iechyd | |
Yn ei swydd 11 Gorffennaf 2014 – 6 Mai 2016 | |
Taoiseach | Enda Kenny |
Rhagflaenwyd gan | James Reilly |
Dilynwyd gan | Simon Harris |
Gweinidog dros Drafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon | |
Yn ei swydd 9 Mawrth 2011 – 11 Gorffennaf 2014 | |
Taoiseach | Enda Kenny |
Rhagflaenwyd gan | Pat Carey |
Dilynwyd gan | Paschal Donohoe |
Teachta Dála | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd Mehefin 2007 | |
Etholaeth | Gorllewin Dulyn |
Manylion personol | |
Ganwyd | Leo Eric Varadkar 18 Ionawr 1979 Ysbyty Rotunda, Dulyn |
Cenedligrwydd | Irish |
Plaid wleidyddol | Fine Gael |
Cymar | Matthew Barrett (2015–presennol) |
Addysg | The King's Hospital |
Alma mater | Coleg y Drindod, Dulyn |
Gwefan | Gwefan etholaethaol |
Gwleidydd Gwyddelig a meddyg yw Leo Eric Varadkar (ganwyd 18 Ionawr 1979) oedd yn arweinydd Fine Gael rhwng 2017 a 2024. Drwy gytundeb clymbleidiol daeth yn Brif Weinidog Iwerddon a Gweinidog Amddiffyn rhwng Mehefin 2017 a Mehefin 2020 cyn dod yn Ddirprwy Brif Weinidog rhwng Mehefin 2020 a Rhagfyr 2022. Ailgymerodd swydd y Prif Weinidog yn Rhagfyr 2022 ond ymddiswyddodd yn Mawrth 2024.[1]
Fe'i ganwyd yn Ysbyty Rotunda, Dulyn, yn fab i'r meddyg Ashok Varadkar o Mumbai a'i wraig Miriam (née Howell) oedd yn nyrs. Cyfarfu eu rhieni tra'n gweithio yn Slough yn Lloegr. Er bod ei dad yn Hindŵ, magwyd ef yn Gatholig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.
Mae'n aelod o blaid Fine Gael, plaid a ystyrir yn fwy asgell dde a mwy cymodlon at gyd-weithio â'r Deyrnas Unedig, na'r blaid fawr arall, Fianna Fail.
Roedd yn gefnogwr brwd dros gyfreithloni priodas hoyw yn y refferendwm yn newid Cyfansoddiad Iwerddon yn 2015.[2]
Etholwyd ef yn Taoiseach (Prif Weinidog) Iwerddon ym mis Mehefin 2017. Ef oedd y Taoiseach gyntaf i fod o dras Indiaidd ac yn agored hoyw. Cafodd ei ddewis i fod yn Ddirprwy Prif Weinidog ar ôl i etholiad Dáil Éireann, 2020, achosi trafodaethau clymbleidiol rhwng Fianna Fail, Fine Gael a'r Gwyrddion. Mi fydd llywodraeth Micheál Martin yn arwain am dymor o 1 flynedd ac hanner, wedyn bydd Varadkar yn cymryd yr awenau fel Taoiseach eto am weddill y tymor.[3][4]
Ymddiswyddodd yn annisgwyl ar 20 Mawrth 2024 gan ddweud "Ar ôl saith mlynedd yn y swydd, dydw i ddim yn teimlo mai fi yw’r person gorau ar gyfer y swydd hon bellach". Bydd yn parhau fel Prif Weinidog nes i Taoiseach newydd gael eu hethol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Gweriniaeth Iwerddon: Y Taoiseach Leo Varadkar yn camu o'r neilltu". newyddion.s4c.cymru. 2024-03-24. Cyrchwyd 2024-03-24.
- ↑ https://www.irishtimes.com/news/politics/leo-varadkar-i-wanted-to-be-an-equal-citizen-and-today-i-am-1.2223688
- ↑ O'Halloran, Marie. "The Fine Gael members who are in the new cabinet". Irish Times (yn Saesneg).[dolen farw]
- ↑ "Disgwyl mai Micheal Martin fydd arweinydd newydd Iwerddon". Golwg360.